Gweithrediadau Comisiwn Coedwigaeth Cymru

Gweithrediadau Comisiwn Coedwigaeth Cymru

Cyhoeddwyd adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru, ‘Adroddiad Dilynol ar Weithrediadau Comisiwn Coedwigaeth Cymru,’ ym mis Ionawr 2013.

 

Yn ystod y Trydydd Cynulliad, lluniodd Swyddfa Archwilio Cymru adroddiadau ynghylch ‘Gweithrediadau Comisiwn Coedwigaeth Cymru’ a ‘Comisiwn Coedwigaeth Cymru: Arian Cyhoeddus Coetir Ffynone a Chilgwyn’ ym mis Tachwedd 2008 a mis Awst 2010.

 

Lluniodd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Trydydd Cynulliad adroddiadau cysylltiedig ym mis Mawrth 2009 a mis Chwefror 2011. Oherwydd cyfyngiadau amser, ni lwyddodd Pwyllgor y Trydydd Cynulliad i ystyried ymateb Llywodraeth Cymru i’r ail o’r adroddiadau hyn.

 

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 28/05/2014

Angen Penderfyniad: 28 Chwe 2013 Yn ôl Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad