Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd

Cyswllt: Polisi: Tom Jackson  Legislation: Sarah Beasley

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09:00-09:05)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau ac aelodau’r cyhoedd i’r cyfarfod.

 

(09:05-10:10)

2.

Cyllid Iechyd - Tystiolaeth gan Lywodraeth Cymru

PAC(4) 27-12 – Papur 1 – Lywodraeth Cymru

 

David Sissling, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Phlant

Kevin Flynn, Cyfarwyddwyr Cyflawni / Dirprwy Brif Weithredwr, GIG Cymru

Alan Brace, Cyfarwyddwr Cyllid a Chaffael, Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Croesawodd y Cadeirydd David Sissling, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Phlant; Kevin Flynn, Cyfarwyddwr Cyflawni/Dirprwy Brif Weithredwr, GIG Cymru; ac Alan Brace, Cyfarwyddwr Cyllid Interim.

 

2.2 Craffodd y Pwyllgor ar waith y tystion.

 

Camau Gweithredu:

 

Cytunodd Llywodraeth Cymru i ddarparu:

 

·         Rhagor o wybodaeth am y costau sy’n gysylltiedig â’r pecynnau diogelu cyflogau.

·         Rhagor o wybodaeth am sut mae Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg wedi arbed arian wrth leihau ei weithlu.

·         Rhagor o wybodaeth am y cynnydd yn nifer y bobl hŷn sy’n cael triniaeth mewn adrannau Damweiniau ac Achosion Brys.

 

 

 

10:10-10:50

3.

Cyllid Iechyd - Tystiolaeth gan Gonffederasiwn y GIG

 

Helen Birtwhistle, Cyfarwyddwr, Conffederasiwn GIG Cymru

Cofnodion:

3.1 Croesawodd y Cadeirydd Helen Birtwhistle, Cyfarwyddwr, Conffederasiwn GIG Cymru.

 

3.2 Holodd y Pwyllgor y tyst.

 

 

 

4.

Papurau i'w nodi

PAC(4) 27-12 – Papur 2 – Y wybodaeth ddiweddaraf gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ar gyllid iechyd

 

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ar Gyllid Iechyd.

 

4.2 Nododd y Pwyllgor gofnodion y cyfarfod blaenorol.  

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:

Eitem 6.

Cofnodion:

Eitem 6.

 

(10:50 - 11:00)

6.

Trafod y dystiolaeth ar Gyllid Iechyd

Cofnodion:

6.1 Oherwydd cyfyngiadau amser, cytunodd y Pwyllgor i drafod y dystiolaeth a gafodd ar Gyllid Iechyd yn ei gyfarfod nesaf.