Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd

Cyswllt: Polisi: Tom Jackson  Legislation: Sarah Beasley

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(9:00 - 9:05)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a’r cyhoedd i’r cyfarfod.

2.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:

Eitemau 3, 4, 5 a 7.

Cofnodion:

Eitemau 3,4, 5 a 7.

(9:05 - 9:30)

3.

Ystyried Bil Archwilio Cyhoeddus (Cymru)

Cofnodion:

3.1 Cytunodd y Pwyllgor ar ei gylch gorchwyl a’i ddull o graffu ar Fil Archwilio Cyhoeddus (Cymru) a chytunodd i lansio ymgynghoriad cyhoeddus yn fuan.

(9:30 - 9:35)

4.

Ystyried yr adroddiad drafft 'Rheoli Grantiau yng Nghymru'

Cofnodion:

4.1 Trafododd y Pwyllgor newidiadau i’w adroddiad drafft ‘Rheoli Grantiau yng Nghymru’, a fyddai’n cael ei gyhoeddi’n fuan, a chytunodd ar y newidiadau hynny.

 

(9:35 - 10:00)

5.

Trafod yr adroddiad drafft 'Cynnydd o ran cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru'

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor adroddiad i’r ymchwiliad, ‘Cynnydd o ran cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru’, a fyddai’n cael ei ystyried ymhellach dros e-bost, a chytunodd ar yr adroddiad.

(10:00 - 10:30)

6.

Sesiwn Friffio gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ar adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru 'Cyllid Iechyd'

PAC(4) 16-12 – Papur 1 – Adroddiad Swyddfa Archwilio CymruCyllid Iechyd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Gwahoddodd y Cadeirydd Archwilydd Cyffredinol Cymru (ynghyd â Gillian Body, Archwilydd Cyffredinol Cynorthwyol, a Matthew Coe, Rheolwr Archwilio Ariannol) i roi briff i’r Pwyllgor ar adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ‘Cyllid Iechyd.’

 

6.2 Cyflwynodd yr Archwilydd Cyffredinol friff i’r Pwyllgor ar y prif faterion sy’n codi o’i adroddiad ac atebodd gwestiynau’r Aelodau.

 

Camau i’w cymryd:

 

Cytunodd yr Archwilydd Cyffredinol i ddarparu:

 

·         Nodyn yn dweud pryd cafodd Byrddau Iechyd Lleol gynnig broceriaeth gan Lywodraeth Cymru.

 

(10:30 - 10:45)

7.

Opsiynau ar gyfer ymdrin ag adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru 'Cyllid Iechyd'

Cofnodion:

 

7.1 Cytunodd y Pwyllgor i gynnal ymchwiliad i Gyllid Iechyd.

 

8.

Papurau i'w nodi

PAC(4) 16-12 – Papur 2 – Gohebiaeth gan Drysorlys EM ynghylch Cynnydd ar gyflawni Safon Ansawdd Tai Cymru

 

PAC(4) 16-12 – Papur 3 – Gohebiaeth gan Lywodraeth Cymru ynghylch Cynnydd ar gyflawni Safon Ansawdd Tai Cymru

 

PAC(4) 16-12 – Papur 4 – National Audit Office report

 

 

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar Safon Ansawdd Tai Cymru.

 

8.2 Cadarnhaodd y Pwyllgor gofnodion y cyfarfod ar 10 Gorffennaf 2012.

Trawsgrifiad