Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd
Cyswllt: Tom Jackson
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(9:30 - 9:35) |
Cynnig i ethol Cadeirydd dros dro Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.22 I benodi Cadeirydd dros dro yn absenoldeb y Cadeirydd. Cofnodion: |
|
(9:35 - 9:40) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: |
|
(9:40 - 10:20) |
Sesiwn friffio gydag Archwilydd Cyffredinol Cymru ar ymgysylltiad y cyhoedd â llywodraeth leol Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1 Estynnodd y Cadeirydd wahoddiad i Archwilydd Cyffredinol Cymru ac Alan Morris, Cyfarwyddwr Grŵp – Archwilio Perfformiad, roi sesiwn friffio i’r Pwyllgor ar adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar ymgysylltiad y cyhoedd â llywodraeth leol. 3.2 Cytunodd y Pwyllgor i wahodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i roi enghreifftiau o’r ymarferion i ymgysylltu â’r cyhoedd sy’n cael eu rhoi ar waith gan gynghorau yng Nghymru. 3.3 Cytunodd yr Archwilydd Cyffredinol i roi enghreifftiau o arfer da a nodwyd yn ystod ei archwiliad ac i roi adborth ar ganlyniadau’r Seminar Cyd-ddysgu ar ymgysylltu â’r cyhoedd yng Nghymru. |
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol: Eitemau 5 i 7. Cofnodion: Eitemau 5 i 7. |
||
(10:20 - 10:30) |
Opsiynau ar gyfer ymdrin ag ymgysylltiad y cyhoedd â llywodraeth leol Cofnodion: 5.1 Trafododd y Pwyllgor yr opsiynau ar gyfer ymdrin ag adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar ymgysylltiad y cyhoedd â llywodraeth leol. |
|
(10:30 - 10:45) |
Penderfynu ar dystion ar gyfer yr ymchwiliad i benderfyniad Llywodraeth Cymru i gaffael a chael gwared ar westy'r River Lodge gynt, Llangollen Cofnodion: 6.1 Cytunodd y Pwyllgor ar ba dystion yr hoffai eu gwahodd i roi tystiolaeth i’w ymchwiliad i benderfyniad Llywodraeth Cymru i gaffael a chael gwared ar westy’r River Lodge gynt, Llangollen. |
|
(10:45 - 11:00) |
Trafodaeth am broses anffurfiol Aelodau o gasglu gwybodaeth am fframwaith Rheoli Grantiau yr Alban Cofnodion: 7.1 Trafododd y Pwyllgor yr adborth ar broses anffurfiol yr Aelodau o gasglu gwybodaeth am fframwaith rheoli grantiau yr Alban. |
|
Papurau i'w nodi Dogfennau ategol:
Cofnodion: 8.1 Cadarnhaodd y Pwyllgor gofnodion y cyfarfod ar 12 Gorffennaf 2012. |
||
Trawsgrifiad |