Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Bethan Davies
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(08:45) |
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1
Croesawodd
y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod. 1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Peter Black AC. |
|
(08:45-08:50) |
Papurau i’w nodi Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Cafodd y papurau eu nodi. 2.1 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog Cyllid a Busnes
y Llywodraeth yn gofyn am eglurhad ar y ffigyrau o amgylch y diogelwch a
gynigir i'r Gyllideb Llywodraeth Leol. |
|
(08:50-09:45) |
Ystyried pwerau: Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru: Sesiwn dystiolaeth 10 Kate
Chamberlain, Prif Weithredwr, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru Nicola
Williams, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Nyrsio, Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro
Morgannwg Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Kate
Chamberlain, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a Nicola Williams, Bwrdd Iechyd
Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg ar ei ymchwiliad i Ystyried pwerau:
Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. 3.2 Cytunodd Nicola Williams i ddarparu copi
o'r llythyr at gleifion yn amlinellu proses gwynion y byrddau iechyd a throi am
gymorth at yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus. 3.3 Cytunodd Kate Chamberlain i ddarparu
ffigurau ar y sector gofal iechyd annibynnol yng Nghymru a nifer yr unedau
preifat o fewn sefydliadau'r GIG. |
|
(09:45-10:45) |
Ystyried pwerau: Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru: Sesiwn dystiolaeth 11 Leighton Andrews AC, Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus Caroline Turner, Dirprwy Gyfarwyddwr, Adran yr
Ysgrifennydd Parhaol, Llywodraeth Cymru Sanjiv Vedi, Dirprwy Gyfarwyddwr, Pennaeth Uned Gwynion
Canolog, Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y
Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, Caroline Turner a Sanjiv Vedi, Llywodraeth
Cymru ar ei ymchwiliad i Ystyried pwerau: Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus
Cymru. |
|
(10:45) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol: Eitemau 6, 7 ac 8 o gyfarfod heddiw ac eitemau 1 a 2 o
gyfarfod dydd Mercher 25 Mawrth. Cofnodion: 5.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(10:45-11:00) |
Ystyried pwerau: Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru: Trafod y dystiolaeth Dogfennau ategol:
Cofnodion: 6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a
ddaeth i law. |
|
(11:00-11:10) |
Blaenraglen Waith Dogfennau ategol:
Cofnodion: 7.1 Cytunodd yr Aelodau ar y rhaglen waith ar
gyfer tymor yr haf. Cytunodd yr Aelodau hefyd i ysgrifennu at y Gweinidog
Cyllid a Busnes y Llywodraeth ynghylch Trethi Busnes. |
|
(11:10-11:20) |
Casglu trethi datganoledig: Dull o gynnal y gwaith craffu Dogfennau ategol:
Cofnodion: 8.1 Trafododd yr Aelodau y dull o gynnal y
gwaith craffu ar gyfer ymchwiliad y Pwyllgor i Gasglu Trethi Datganoledig. |