Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Bethan Davies
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09:00) |
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1
Croesawodd
y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod. 1.2 Ni chafwyd ymddiheuriadau. |
|
(09:00-09:05) |
Papurau i’w nodi: Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Nodwyd y papurau. |
|
(09:05-09:45) |
Rhagolygon ar gyfer Trethi Cymru: Sesiwn dystiolaeth 1 Robert
Chote - Cadeirydd, y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol Jon Riley – Uwch-ddadansoddwr, Y Swyddfa Cyfrifoldeb
Cyllidebol FIN (4)
-02-15 Papur 1 - Rhagolwg trethi Cymru
ar gyfer mis Rhagfyr 2014 Briff gan y
Gwasanaeth Ymchwil Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan
Robert Chote, Cadeirydd a Jon Riley, Uwch-ddadansoddwr gyda’r Swyddfa
Cyfrifoldeb Cyllidebol drwy gynhadledd fideo. 3.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at
y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol am eglurhad o sut y mae’n cyfrifo’r dreth
dirlenwi. |
|
(10:00-10:45) |
Ystyried Pwerau: Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru: Sesiwn dystiolaeth 2 Jim Martin
- Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus yr Alban Trawsnewid
Diwylliant Cwynion yr Alban (Saesneg yn Unig) Briff gan y
Gwasanaeth Ymchwil Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan
Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus yr Alban ar ei ymchwiliad. 4.2 Cytunodd yr Ombwdsmon i ddarparu'r
canlynol: ·
Cofnodion
o’r sylw yn y wasg ac ystadegau o ran llywodraethu'r broses trin cwynion. |
|
(10:45-11:45) |
Ystyried pwerau: Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru: Sesiwn Dystiolaeth 3 Simon
Rogers - Cadeirydd, Cymdeithas Gofal Iechyd Annibynnol Cymru Sally Taber
- Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cynghori Gofal Iechyd Annibynnol, Cymdeithas Gofal
Iechyd Annibynnol Cymru FIN(4)-02-15
Papur 2 – Gwasanaeth Dyfarnu Cwynion y Sector Annibynnol (ISCAS) FIN(4)-02-15
Papur 2a – Dogfen ffeithiau Cymdeithas Gofal Iechyd Annibynnol Cymru ar gyfer
2013-2014 Briff gan y
Gwasanaeth Ymchwil Dogfennau ategol:
Cofnodion: 5.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan
Simon Rogers - Cadeirydd, Cymdeithas Gofal Iechyd Annibynnol Cymru a Sally
Taber - Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cynghori Gofal Iechyd Annibynnol, Cymdeithas
Gofal Iechyd Annibynnol Cymru. 5.2 Cytunodd y Gymdeithas Gofal Iechyd
i ddarparu'r canlynol: ·
Papur briffio ar y tueddiadau cwynion a fydd yn ymddangos
yn adroddiad blynyddol nesaf ISCAS. ·
Copi o
adroddiad blynyddol y llynedd er gwybodaeth i’r Aelodau. ·
Byddai’n
rhannu papur a gynhyrchwyd gan ISCAS ar y cyd â'r Adran Iechyd. |
|
(11:45) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol: Eitemau 7, 8 a 9. Cofnodion: 6.1 Derbyniwyd y
cynnig. |
|
(11:45-12:00) |
Ystyried pwerau: Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru: Trafod y dystiolaeth Cofnodion: 7.1 Trafododd y
Pwyllgor y dystiolaeth. |
|
(12:00-12:20) |
Trafod papurau cwmpasu FIN(4)-02-15
Papur 3 – Cyfeiriad posibl Ymchwiliad i Gefnogaeth Ariannol yn y Dyfodol FIN(4)-02-15
Papur 4 – Casglu trethi wedi’u datganoli Dogfennau ategol:
Cofnodion: 8.1 Ystyriodd y Pwyllgor y papurau
cwmpasu a chytunwyd ar ffordd ymlaen. |
|
(12:20-12:30) |
Ystyried y Papur ar Wythnos y Cynulliad 2015 FIN (4)-02-15
Papur 5 – Wythnos y Cynulliad 2015 Dogfennau ategol:
Cofnodion: 9.1 Ystyriodd y Pwyllgor bapur ar
Wythnos y Cynulliad 2015. |