Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd

Cyswllt: Bethan Davies 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

(09:30)

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1       Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod.

 

1.2       Estynnodd y Pwyllgor longyfarchiadau i Peter Black AC am ennill y wobr Aelod Cynulliad y flwyddyn.

 

 

(09:30-10:45)

2.

Ymchwiliad i Gyllido Addysg Uwch: Tystiolaeth gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Huw Lewis AC, y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Neil Surman, Dirprwy Cyfarwyddwr, Addysg Uwch

Chris Jones, Pennaeath Cyllid Addysg Uwch a Gwella Perfformiad

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau ar gyllido addysg uwch.

 

(10:45)

3.

Papurau i’w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Nodwyd y papurau.

 

3a

Cyllido Addysg Uwch: Gwybodaeth ychwanegol gan Brifysgol Agored Cymru

Dogfennau ategol:

(10:45)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:

Eitem 5.

 

 

Cofnodion:

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(10:45-11:30)

5.

Ymchwiliad i Gyllido Addysg Uwch: Trafod y dystiolaeth a gafwyd

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd ynghylch yr ymchwiliad a gofynnwyd i'r clercod gael rhagor o wybodaeth am y canlynol:

·       Llyfr benthyciad i fyfyrwyr

·       Nifer y myfyrwyr AAB/ABB sy'n cofrestru gyda phrifysgolion Cymru

·       Ysgrifennu at y Prif Gynghorwr Gwyddonol ynghylch cyllid ar gyfer gwaith ymchwil

 

(11:30-12:00)

6.

Ardaloedd Menter: Trafod Adroddiad y Pwyllgor

Cofnodion:

6.1 Trafodwyd yr adroddiad ac awgrymwyd nifer o welliannau. Cytunodd yr Aelodau i drafod y newidiadau y tu allan i'r Pwyllgor.

 

6.2 Nododd yr Aelodau eu bwriad i gyhoeddi'r adroddiad cyn y Nadolig a chytunwyd i wneud cais am ddadl yn y Cyfarfod Llawn.

 

 

(12:00-12:30)

7.

Blaenraglen waith: Gwanwyn 2014

Cofnodion:

7.1 Trafodwyd a nodwyd y flaenraglen waith.