Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd
Cyswllt: Gareth Price
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad |
||
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Croesawodd y
Cadeirydd Aelodau a’r cyhoedd i’r cyfarfod.
1.2 Nid oedd
unrhyw ymddiheuriadau na dirprwyon. |
||
(09.00 - 10.00) |
Ymchwiliad i Ardaloedd Menter yng Nghymru - Panel o fusnesau FIN(4)-10-13 Papur 1eCube Solutions Mike Corne - Partner a Chyfarwyddwr Masnachol FIN(4)-10-13 Papur 2 Mustang Marine Lucas Boissevain - Cyfarwyddwr Cyllid Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Croesawodd y
Cadeirydd Mike Corne, Partner a Chyfarwyddwr Masnachol yn eCube Solutions, a
Lucas Boissevian, Cyfarwyddwr Cyllid yn Mustang Marine. 2.2 Ymatebodd y
tystion i gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor. |
|
(10.00 - 11.00) |
Goblygiadau ariannol y Bil Addysg Bellach ac Uwch - Tystiolaeth gan y Gweinidog dros Addysg a Sgiliau FIN(4)-10-13 Papur 3 Leighton Andrews AM, Gweinidog dros Addysg a Sgiliau Carla Lyne, Dirprwy Gyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Croesawodd y
Cadeirydd Leighton Andrews AC, y Gweinidog Addysg a Sgiliau, a Carla Lyne,
Dirprwy Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol Cyllid. 3.2 Ymatebodd y
Gweinidog a’r swyddog i gwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor. 3.3 Cytunodd y
Gweinidog i ddarparu’r wybodaeth ganlynol i’r Pwyllgor: ·
Nodyn
ar y newidiadau y gallai’r Gweinidog eu gwneud i amodau ariannu sefydliadau
addysg uwch. ·
Canran
yr arian i sefydliadau addysg uwch sy’n dod gan Lywodraeth Cymru. 3.4 Cytunodd y
tîm clercio i roi trawsgrifiad o’r sesiwn Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc ar y Bil
Addysg Bellach ac Uwch (Llywodraethu a Gwybodaeth) (Cymru) ar 15 Mai i’r
Aelodau. 3.5 Cytunodd y
Clerc i ddrafftio llythyr i’r Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc yn nodi amheuon y
Pwyllgor ynghylch ‘rheolaethau anneddfwriaethol’. |
|
(11.00 - 12.00) |
Ymchwiliad i Ardaloedd Menter yng Nghymru - Cadeiryddion y Byrddau Ardaloedd Menter FIN(4)-10-13
Papur 4 Nick Bourne,
Cadeirydd Ardal Fenter Dyfrffordd y Ddau Gleddau FIN(4)-10-13
Papur 5 Gareth Jenkins,
Cadeirydd Ardal Fenter Glynebwy FIN(4)-10-13
Papur 6 Ardal Fenter Canol Caerdydd FIN(4)-10-13
Papur 7 Ardal Fenter Eryri FIN(4)-10-13
Papur 8 Ardal Fenter Glannau Dyfrdwy FIN(4)-10-13 Papur
9 Ardel Fenter Sain Tathan Maes Awyr Caerdydd FIN(4)-10-13
Papur 10 Ardel Fenter Ynys Môn Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1 Croesawodd y
Cadeirydd Nick Bourne, Cadeirydd Ardal Fenter Dyfrffordd y Ddau Gleddau, a
Gareth Jenkins, Cadeirydd Ardal Fenter Glynebwy. 4.2 Ymatebodd y
tystion i’r cwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor. |
|
(12.00) |
Papurau i'w nodi Cofnodion y
cyfarfod a gynhaliwyd ar 8 Mai Dogfennau ategol: Cofnodion: 5.1 Nododd y
Pwyllgor gofnodion y cyfarfod blaenorol ar 8 Mai 2013. |
|
(12.00) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol: Eitem 7 Cofnodion: 6.1 Derbyniodd y
Pwyllgor y cynnig. |
|
(12:00 - 12:10) |
Trafod dangosyddion perfformiad allweddol Comisiwn y Cynulliad FIN(4)-10-13 Papur 11 Cofnodion: 7.1 Trafododd y
Pwyllgor Ddangosyddion Perfformiad Allweddol Comisiwn y Cynulliad. 7.2 Cytunodd y Clerc i ddrafftio llythyr i Gomisiwn y
Cynulliad yn nodi eu cynnig ar Ddangosyddion Perfformiad Allweddol a gofyn am
gymariaethau â’r blynyddoedd/tymhorau blaenorol lle y bo’n gymwys. |