Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Siân Phipps  Dirprwy Glerc: Meriel Singleton

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Ni chafwyd ymddiheuriadau.

(9:30-10:30)

2.

Ymchwiliad i adfywio canol trefi : sesiwn dystiolaeth

 

EBC(4)-08-11 Papur 1 (Saesneg yn Unig)

Lee Waters, Cyfarwyddwr Sustrans Cymru

Liz Thorne,  Sustrans Cymru

 

EBC(4)-08-11 Papur 2 (Saesneg yn Unig)

Clive Campbell, Cadeirydd Grŵp Polisi Cynghrair Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Croesawodd y Cadeirydd Lee Waters, Liz Thorne, a Clive Campbell i’r cyfarfod. Bu’r Aelodau’n holi’r tystion.

 

2.2 Cytunodd Sustrans i ddarparu’r wybodaeth a ganlyn:

·         Tystiolaeth o effaith datblygu llwybrau beicio a cherdded ar ganol trefi.  

·         Tystiolaeth o’r niferau sy’n teithio i’r dref mewn car neu mewn modd mwy cynaliadwy.

(10:30-11:30)

3.

Ymchwiliad i adfywio canol trefi : sesiwn dystiolaeth

 

EBC(4)-08-11 Papur 3 (Saesneg yn Unig)

Carole-Anne Davies, Comisiwn Dylunio Cymru

Alan Francis, Comisiwn Dylunio Cymru

 

EBC(4)-08-11 Papur 4 (Saesneg yn Unig)

Jennifer Stewart, Cronfa Dreftadaeth y Loteri Cymru

Ian Morrison, Cronfa Dreftadaeth y Loteri Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Croesawodd y Cadeirydd Carole-Anne Davies, Alan Francis, Jennifer Stewart ac Ian Morrison i’r cyfarfod. Bu’r Aelodau’n holi’r tystion.   

 

3.2 Cytunodd Cronfa Dreftadaeth y Loteri i ddarparu:

·         Crynodeb o arolwg Cronfa Dreftadaeth y Loteri o fentrau Treftadaeth Treflun mewn perthynas â chanol trefi.

·         Copi o adroddiad gwerthuso y cynllun hwnnw.

 

 

4.

Papurau i'w nodi

EBC(4)-08-11 Papur 5

 

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Nododd y Pwyllgor y papur a ganlyn:

 

·         Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Trawsgrifiad