Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gareth Price
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad
o’r cyfarfod (PDF 447KB) Gweld
fel HTML (439KB) |
||
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Cafwyd
ymddiheuriadau gan Mick Antoniw AC a Gwenda Thomas AC. |
||
(09.30-10.15) |
Gwasanaethau Bysiau a Thrafnidiaeth Gymunedol yng Nghymru: Tystiolaeth Academaidd a Llywodraeth Leol Yr Athro Stuart Cole, Athro Emeritws mewn Trafnidiaeth,
Canolfan Ymchwil Trafnidiaeth Cymru, Prifysgol De Cymru Stephen Pilliner, Pennaeth Trafnidiaeth a Pheirianneg, Cyngor
Sir Caerfyrddin Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Atebodd yr Athro Stuart Cole a Stephen Pilliner gwestiynau
gan Aelodau o’r Pwyllgor. 2.2 Cynigiodd Stephen Pilliner ddarparu gwybodaeth
bellach am y gost sydd ynghlwm wrth redeg gwasanaeth Bwcabus. |
|
(10.30-11.30) |
Gwasanaethau Bysiau a Thrafnidiaeth Gymunedol yng Nghymru: Polsi Bysiau Lloegr Tobyn Hughes, Rheolwr Gyfarwyddwr, Gweithrediadau
Trafnidiaeth, Awdurdod Cyfun Gogledd-ddwyrain Lloegr / Nexus (Saesneg yn unig) Kamal Panchal, Uwch-gynghorydd, Y Gymdeithas Llywodraeth
Leol Charles Loft, Cynghorydd (Trafnidiaeth), Y Gymdeithas
Llywodraeth Leol Stephen Joseph, Prif Weithredwr, Ymgyrch dros
Drafnidiaeth Well Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Atebodd Tobyn Hughes, Kamal Panchal, Charles Loft a
Stephen Joseph gwestiynau gan Aelodau o’r Pwyllgor. |
|
(11.30-12.15) |
Gwasanaethau Bysiau a Thrafnidiaeth Gymunedol yng Nghymru: Sustrans Cymru Jane Lorimer, Cyfarwyddwr Cenedlaethol, Sustrans Cymru Chris Roberts, Pennaeth Materion Allanol, Sustrans Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.1 Atebodd Jane Lorimer a Chris Roberts gwestiynau gan
Aelodau o’r Pwyllgor. |
|
(13.30-14.30) |
Gwasanaethau Bysiau a Thrafnidiaeth Gymunedol yng Nghymru: Llywodraeth Cymru Edwina Hart AC, Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a
Thrafnidiaeth Rhodri Griffiths, Dirprwy Gyfarwyddwr, Polisi
Trafnidiaeth, Cynllunio a Phartneriaethau, Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 5.1 Atebodd Edwina Hart AC, Gweinidog yr Economi,
Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth a Rhodri Griffiths gwestiynau gan Aelodau o’r
Pwyllgor. 5.2 Cynigiodd Edwina Hart AC, Gweinidog yr Economi,
Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth ddarparu’r wybodaeth a ganlyn: ·
Manylion am ddangosyddion perfformiad allweddol Bwcabus ·
Manylion am gyfanswm y cyllid cyhoeddus a roddwyd i gynllun
Bwcabus a nifer y teithwyr a gludwyd bob blwyddyn ers 2009-2010 ·
Manylion am lefel y gymhorthdal ar gyfer pob taith Bwcabus,
ac a yw Bwcabus yn darparu gwerth am arian a sut mae hyn wedi cael ei asesu hyd
yma ·
Manylion am unrhyw gerbydau bach Bwcabus a ddefnyddir i
gysylltu cymunedau gan gynnwys nifer y cerbydau Bwcabus sy’n gweithredu ym mhob
ardal ·
Dadansoddiad o nifer y teithwyr sy’n defnyddio gwasanaeth
Traws Cymru ac unrhyw wybodaeth sydd ar gael o ran ble mae teithwyr yn cychwyn
eu taith a phen eu taith gan gynnwys os yw’n angenrheidiol defnyddio gwasanaeth
bysiau masnachol, a yw’r teithwyr sy’n defnyddio gwasanaethau masnachol yn cael
eu cyfrif ddwywaith wrth gyfrif cyfanswm y teithwyr ar y llwybr hwnnw. |
|
Papurau i'w nodi |
||
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Menter Dogfennau ategol: Cofnodion: 6.1.1 Nodwyd y Papur gan y Pwyllgor. |