Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Claire Morris 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(9:30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau gan Mick Antoniw AC, Byron Davies AC a David Rees AC. Dirprwyodd Suzy Davies AC ar ran Byron Davies AC.

 

(9:30-10:30)

2.

Ymchwiliad i Dwristiaeth (Sesiwn 6)

John Griffiths AC, y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon

Llyr Jones, Swyddog Cyswllt Parcau Cenedlaethol, Llywodraeth Cymru

Marilyn Lewis, Cyfarwyddwr, Cadw

Linda Tomos, Cyfarwyddwr, CyMAL

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu John Griffiths (y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon), Marilyn Lewis a Linda Tomos yn ateb cwestiynau gan aelodau’r pwyllgor.

Cytunodd John Griffiths i ddarparu gwybodaeth ychwanegol am y materion a ganlyn i’r Pwyllgor:

i) y mewnbwn y mae ei swyddogion wedi’i gael i’r ymarfer brandio gydag Ashton Brand Consulting Group.

ii) sut y mae ei adran yn cyfrannu at dwristiaeth drwy gynnal a chadw atyniadau.

iii) pa dargedau sydd ganddo i gynyddu nifer yr ymwelwyr i’r atyniadau sydd

 o dan ei ofal.

iv) canlyniadau’r arolygiadau o foddhad ymwelwyr a gynhaliwyd gan ei adran

yn ddiweddar.

v) rôl y Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig o ran trefnu gŵyl WOMEX.

 

(10:40-11:10)

3.

Ymchwiliad i Dwristiaeth (Sesiwn 7)

David Alston, Cyfarwyddwr y Celfyddydau, Cyngor Celfyddydau Cymru

Sian Tomos, Cyfarwyddwr Menter ac Adfywio, Cyngor Celfyddydau Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu David Alston a Sian Tomos yn ateb cwestiynau gan aelodau’r pwyllgor.

Cytunodd David Alston i ddarparu gwybodaeth ychwanegol i’r Pwyllgor ynglŷn â digwyddiadau sy’n denu sylw’r wasg ac sy’n gallu bod yn fwy effeithiol na hysbysebu uniongyrchol.

 

(11:15-11:45)

4.

Ymchwiliad i Dwristiaeth (Sesiwn 8)

Rebecca Brough, Y Cerddwyr a Chyswllt Amgylchedd Cymru

James Byrne, Ymddiriedolaethau Natur Cymru a Chyswllt Amgylchedd Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu Rebecca Brough a James Byrne yn ateb cwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.

5.

Papurau i'w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y dogfennau a ganlyn:

 

EBC(4)-18-14 (p. 4) – Llythyr i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth

EBC(4)-18-14 (p. 5) – Ymaeteb oddi wrth Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth

EBC(4)-18-14 (p. 6) – Tystiolaeth Ychwanegol (1) gan VisitBritain

EBC(4)-18-14 (p. 7) - Tystiolaeth Ychwanegol (2) gan VisitBritain

EBC(4)-18-14 (p. 8) – Llythyr oddi wrth y Pwyllgor Cyllid i Gadeiryddion

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn

Eitem 7

Cofnodion:

Penderfynodd y Pwyllgor i wahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn:

 

Ystyried adroddiad drafft (Ymchwiliad i agwedd Llywodraeth Cymru tuag at hyrwyddo marchnata a mewnfuddsoddi).

 

(11:45-12:15)

7.

Ystyried Adroddiad Drafft

Adroddiad drafft ar gyfer yr ymchwiliad i agwedd Llywodraeth Cymru tuag at hybu masnach a mewnfuddsoddi.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft.