Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Siân Phipps 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan David Rees AC, Byron Davies AC a Rhun ap Iorwerth AC. Nid oedd unrhyw ddirprwyon.

(09.10-09.55)

2.

Ymchwiliad dilynol i Sgiliau Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM) (sesiwn 4)

Tystion:

Yr Athro Richard B. Davies,  Is-Ganghellor, Prifysgol Abertawe, Addysg Uwch Cymru

Wendy Sadler,  Swyddog Cyswllt ag Ysgolion, Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth, Prifysgol Caerdydd

Yr Athro Andy Evans, Cyfarwyddwr y Sefydliad, Adran Mathemateg a Ffiseg, Prifysgol Aberystwyth

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Bu'r tystion yn ateb cwestiynau gan aelodau'r Pwyllgor.

2.2 Cytunodd Wendy Sadler i ddarparu nodyn i'r Pwyllgor am y rhwydwaith ffiseg ysgogol yn Lloegr.

(10.05-10.45)

3.

Ymchwiliad dilynol i Sgiliau Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM) (sesiwn 5)

Tyst:

Richard Spear,  Prif Swyddog Gweithredol, Gyrfa Cymru

Cofnodion:

3.1 Ymatebodd Richard Spear i gwestiynau gan aelodau'r Pwyllgor.

3.2 Cytunodd Richard Spear i ddarparu gwybodaeth am nifer y lleoliadau penodol sy'n ymwneud â phynciau STEM sydd ar gronfa ddata Gyrfa Cymru.

(10.55-11.40)

4.

Ymchwiliad dilynol i Sgiliau Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM) (sesiwn 6)

Tystion:

Dr Greg Walker, Dirprwy Brif Weithredwr, ColegauCymru

Mr Barry Liles,  Pennaeth, Coleg Sir Gâr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Bu'r tystion yn ateb cwestiynau gan aelodau'r Pwyllgor.

4.2 Cytunodd Barry Liles i ddarparu gwerthusiad gan y Gwasanaeth Gwella Dysgu a Sgiliau (LSIS) o fyfyrwyr sy'n cymryd rhan mewn cystadlaethau sgiliau.

4.3 Cytunodd Dr Greg Walker i ddarparu gwybodaeth am nifer y myfyrwyr sy'n cofrestru ar gyrsiau STEM i ennill cymwysterau HND, HNC a Graddau Sylfaen.

(11.40-12.10)

5.

Ymchwiliad dilynol i Sgiliau Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM) (sesiwn 7)

Tyst:

Dr Tom Crick PhD FBCS FHEA,  Uwch Ddarlithydd mewn Cyfrifiadureg, Prifysgol Metropolitan Caerdydd

Cofnodion:

5.1 Bu Dr Tom Crick yn ymateb i gwestiynau gan aelodau'r Pwyllgor.

6.

Papurau i’w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Nododd y Pwyllgor y cofnodion a dogfennau eraill.