Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Siân Phipps
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
Trawsgrifiad |
|
Trafod y Flaenraglen Waith Dogfennau ategol: EBC(4)-05-14(p.1) – Blaenraglen waith Cofnodion: 1.1 Ystyriodd y Pwyllgor yr eitem hon mewn sesiwn breifat. 1.2 Penderfynodd y Pwyllgor i gynnal dau ymchwiliad yn ystod tymor yr haf,
sef ymchwiliad dilynol i sgiliau ym maes Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a
Mathemateg; ac ymchwiliad i Dwristiaeth. 1.3 Penderfynodd y Pwyllgor hefyd i gynnal dau ymchwiliad dilynol diwrnod
o hyd: i Borthladdoedd ac i Interreg. 1.4 Cytunodd y Pwyllgor i ystyried cynnal ymchwiliad i’r sectorau
economaidd a ddylai gael blaenoriaeth ar gyfer tymor yr hydref. |
|
Craffu ar y Gymraeg Dogfennau ategol: EBC(4)-05-14(p.2)
– Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth
Leol at y Prif Weinidog yn ymwneud ag adolygiad o'r polisi iaith Gymraeg EBC(4)-05-14(p.3)
– Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a
Llywodraeth Leol at Gadeirydd y Pwyllgor Menter a Busnes yn ymwneud â'r
adolygiad o'r polisi iaith Gymraeg Cofnodion: 2.1 Ystyriodd y Pwyllgor yr eitem hon mewn sesiwn breifat. 2.2 Cytunodd y Pwyllgor y byddai’r Cadeirydd yn ysgrifennu at Gadeirydd y
Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol i nodi sut y byddai’n
cynnwys y gwaith o graffu ar y Gymraeg yn ei flaenraglen waith. |
|
Gwobrau Ysbrydoli Cymru Cofnodion: 3.1 Ystyriodd y Pwyllgor yr eitem hon mewn sesiwn breifat. 3.2 Penderfynodd yr Aelodau nad oeddent am gymryd rhan fel Pwyllgor yn y
Gwobrau Ysbrydoli Cymru. |
|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 4.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan
David Rees AC a Byron Davies AC. Nid oedd dirprwyon ar eu rhan. |
|
Ymchwiliad i ddull Llywodraeth Cymru o hyrwyddo masnach a mewnfuddsoddi - sesiwn dystiolaeth 10 (09.45-10.45) Witnesses: ·
Yr
Athro Gareth Morgan, Cadeirydd y Panel Sector Gwyddorau Bywyd ·
David
Williams, Cadeirydd y Panel Sector Ynni a’r Amgylchedd Dogfennau ategol: Papur preifat (Papur Briffio'r Aelodau ar gyfer Eitem 5) Dogfennau ategol: Cofnodion: 5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan yr Athro Gareth
Morgan, Cadeirydd Panel Sector y Gwyddorau Bywyd a David Williams, Cadeirydd
Panel y Sector Ynni ac Amgylchedd. |
|
Adroddiad cynnydd chwe mis a chyllideb alldro 2012-13 (11.00-12.30) Tystion: ·
Edwina Hart AC, Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, Llywodraeth Cymru ·
James Price, Cyfarwyddwr Cyffredinol,
Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, Llywodraeth Cymru ·
Rob Hunter, Cyfarwyddwr, Cyllid a
Pherfformiad, Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol: Papur preifat (Papur
Briffio'r Aelodau ar gyfer Eitem 6) EBC(4)-05-14(p.4) –
Craffu ar y gyllideb - llythyr gan y Cadeirydd at y Gweinidog dyddiedig 10
Rhagfyr 2013 EBC(4)-05-14(p.5) –
Craffu ar y Gyllideb - ymateb y Gweinidog dyddiedig 14 Ionawr 2014 EBC(4)-05-14(p.6) - Craffu ar y Gyllideb - llythyr arall gan y Gweinidog at y Cadeirydd
dyddiedig 4 Chwefror 2014 EBC(4)-05-14(p.7) – Craffu ar y Gyllideb - Memorandwm 2013- 2014 EBC(4)-05-14(p.8) - Nodyn am y newidiadau yn y dyraniadau o'u cymharu â'r Gyllideb atodol
gyntaf EBC(4)-38-13(p.6) -
Diweddariadau chwe mis - Blaenoriaethau ar gyfer y Rheilffyrdd, yr M4,
Blaenoriaethau ac Ymrwymiadau Trafnidiaeth Dogfennau ategol:
Cofnodion: 6.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan
Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, Llywodraeth Cymru.
Cynorthwywyd y Gweinidog gan James Price, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Adran yr
Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, Llywodraeth Cymru a Rob Hunter,
Cyfarwyddwr, Adran Cyllid a Pherfformiad, Llywodraeth Cymru 6.2 Cytunodd y Gweinidog i: - ddarparu manylion ynghylch y
trosglwyddiadau a wnaed yn y gyllideb trafnidiaeth 2012-2013, ac ar ba sail yr
oedd y buddsoddiadau trafnidiaeth ychwanegol wedi’u blaenoriaethu; - ddarparu crynodeb o’r ffigurau
dadansoddi costau fesul swydd a gydgasglwyd, i ddangos pa fath o gymorth busnes
neu gymorth ariannol sy’n darparu’r enillion gorau ar fuddsoddiadau, a nodyn
sy’n dangos sut y caiff yr enillion yn sgîl buddsoddiadau eu hasesu gan Adran
yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth (er enghraifft drwy ddefnyddio panelau
buddsoddi a Bwrdd Cynghorol Datblygu Diwydiannol Cymru ); - ddarparu dadansoddiad o faint o’r
arbedion effeithlonrwydd o £1.6 miliwn, wrth ddarparu prosiect Cyflymu Cymru, a
gyflawnwyd drwy dynnu ffioedd yngynghorwyr allanol allan; - cynnwys dangosyddion trafnidiaeth y
Rhaglen Lywodraethu o fewn y bwletin nesaf ar gynnydd bob chwe mis gan y
Gweinidog, gyda sylwadau i grynhoi effaith y polisi. 6.3 Cytunodd y Gweinidog hefyd y byddai’r wybodaeth flynyddol ddiweddaraf
am yr economi a thrafnidiaeth yn dangos yn glir, ar lefel gweithredu, y swyddi
a’r buddsoddi a sicrhaodd y canlyniadau a gyflawnwyd yn 2013-14, ynghyd â’r
gwariant sy’n gysylltiedig â chyflawni’r canlyniadau hynny. Yng ngoleuni’r
ffaith bod y swyddi a gefnogir wedi’u cyflawni heb unrhyw wariant gan
Lywodraeth Cymru, byddai’r Pwyllgor yn gwerthfawrogi pe bai modd dadansoddi’r
canlyniadau o ran swyddi, i ddangos pa swyddi a grëwyd, pa swyddi a ddiogelwyd
a pha swyddi a gefnogwyd, ar wahân. |
|
Papurau i’w nodi Dogfennau ategol: EBC(4)-05-14(p.9) – Llythyr gan y Cadeirydd at y Gweinidog yn ymwneud â WOMEX
dyddiedig 17 Ionawr 2014 EBC(4)-05-14(p.10) – Ymateb y Gweinidog i'r llythyr yn ymwneud â WOMEX dyddiedig 27 Ionawr 2014 EBC(4)-05-14(p.11) - TEN-T – Llythyr gan y Cadeirydd at y Gweinidog dyddiedig 24
Ionawr 2014 EBC(4)-05-14(p.12) - TEN-T - Ymateb y
Gweinidog dyddiedig 5 Chwefror 2014 EBC(4)-05-14(p.13) – TEN-T – Llythyr gan Herald Ruijters dyddiedig 06.02.14 EBC(4)-05-14(p.14) – Hanes diweddar y berthynas rhwng Masnach a Buddsoddi y DU a Llywodraeth Cymru EBC(4)-05-14(p.15) – TEN-T – Llythyr
gan y Cadeirydd i Herald Ruijters dyddiedig 24 Ionawr 2014 Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: 7.1 Nododd y Pwyllgor y dogfennau ategol canlynol: EBC(4)-05-14(p.9) – Llythyr gan y Cadeirydd at y Gweinidog ynghylch WOMEX,
dyddiedig 17 Ionawr 2014 EBC(4)-05-14(p.10) – Ymateb y Gweinidog ynghylch WOMEX, dyddiedig 27 Ionawr 2014 EBC(4)-05-14(p.11) - TEN-T - Llythyr gan y Cadeirydd at y Gweinidog, dyddiedig 24
Ionawr 2014 EBC(4)-05-14(p.12) - TEN-T - Ymateb y Gweinidog, dyddiedig 5 Chwefror 2014 EBC(4)-05-14(p.13) – TEN-T – Llythyr gan Herald Ruijters, dyddiedig 06.02.14 EBC(4)-05-14(p.14) – Hanes y berthynas rhwng Masnach a Buddsoddi y DU a
Llywodraeth Cymru yn ddiweddar Cofnodion y cyfarfod blaenorol |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol |
|
EBC(4)-05-14(p.9) – Letter from the Chair to the Minister regarding WOMEX: 17 January 2014 |
|
EBC(4)-05-14(p.10) – The Minister's response regarding WOMEX: 27 January 2014 |
|
EBC(4)-05-14(p.11) - TEN-T - Letter from the Chair to the Minister: 24 January 2014 |
|
EBC(4)-05-14(p.12) - TEN-T - Minister's response: 5 February 2014 |
|
EBC(4)-05-14(p.13) – TEN-T – Letter from Herald Ruijters: 6 February 2014 |
|
EBC(4)-05-14(p.15) – TEN-T – Letter from the Chair to Herald Ruijters: 24 January 2014 |
|
EBC(4)-05-14(p.14) – Recent UKTI - WG Relationship History |