Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Siân Phipps
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
Trawsgrifiad |
|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Cafwyd
ymddiheuriadau gan David Rees AC. Nid oedd unrhyw ddirprwyon. |
|
Arddangosfa fasnach cerddoriaeth y byd (WOMEX) 2013 (Effaith a Gwaddol) - sesiwn dystiolaeth 1 (Panel: Cyfarwyddwyr Gweithredol Cerdd Cymru) (09.15-10.15) Tystion: ·
David Alston, Cyfarwyddwr y Celfyddydau, Cyngor Celfyddydau Cymru ·
Eluned Haf, Pennaeth Celfyddydau Rhyngwladol Cymru ·
John Rostron, Prif Weithredwr, Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig Dogfennau ategol: Papur preifat (Briff yr Aelodau
ar gyfer eitemau 2, 3 a 4) Cofnodion: 2.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan David Alston, Cyfarwyddwr
Celfyddydau Cyngor Celfyddydau Cymru; Eluned Haf, Pennaeth Celfyddydau
Rhyngwladol Cymru a John Rostron, Prif Weithredwr y Sefydliad Cerddoriaeth
Gymreig. 2.2 Cytunodd Eluned Haf i roi copi o adroddiad gwerthuso WOMEX i'r
Pwyllgor. Caiff yr adroddiad hwn ei gyflwyno i Uned Prif Ddigwyddiadau
Llywodraeth Cymru. |
|
Arddangosfa fasnach cerddoriaeth y byd (WOMEX) 2013 (Effaith a Gwaddol) - sesiwn dystiolaeth 2 (Panel: Trefnwyr y lleoliad) (10.30-11.30) Tystion: ·
Bet Davies, Pennaeth Cyfathrebu,
Canolfan Mileniwm Cymru ·
Phil Sheeran, Rheolwr Cyffredinol,
Motorpoint Arena ·
Kathryn Richards, Pennaeth
Diwylliant a Digwyddiadau, Cyngor Caerdydd Cofnodion: 3.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Bet Davies, Pennaeth Cyfathrebu,
Canolfan Mileniwm Cymru; Phil Sheeran, Rheolwr Cyffredinol Motorpoint Arena a
Kathryn Richards, Pennaeth Diwylliant a Digwyddiadau Cyngor Caerdydd. |
|
Arddangosfa fasnach cerddoriaeth y byd (WOMEX) 2013 (Effaith a Gwaddol) - sesiwn dystiolaeth 3 (cynhadledd fideo) (11.40-12.15) Tystion: Anna Pötzsch, Cyfarwyddwr y Cyfryngau a Chyfathrebu, Piranha WOMEX Cofnodion: 4.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Anna Pötzsch, Cyfarwyddwr y
Cyfryngau a Chyfathrebu, Piranha WOMEX (drwy gyfrwng dolen sain). |
|
Y Rhwydwaith Trafnidiaeth Traws-Ewropeaidd a Rheoliadau Cyfleuster Cysylltu Ewrop (cynhadledd fideo) (13.30-14.30) Tystion: ·
Robert Goodwill AS, Yr Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol dros Drafnidiaeth ·
Jane
Peters, Pennaeth Cydweithredu Rhyngwladol ·
Verna
Cruickshank, Cydweithredu Rhyngwladol ·
Jennifer
Dunlop, Gwasanaeth Cyfreithiol Swyddfa Cwnsler Cyffredinol yr Adran
Drafnidiaeth Dogfennau ategol: Papur preifat (Briff yr
Aelodau ar gyfer eitem 5) Cofnodion: 5.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Robert Goodwill AS, yr
Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol dros Drafnidiaeth; Jane Peters, Pennaeth Cydweithredu Rhyngwladol; Verna Cruickshank,
Cydweithredu Rhyngwladol a Jennifer Dunlop, Gwasanaeth Cyfreithiol Swyddfa
Cwnsler Cyffredinol yr Adran Drafnidiaeth. 5.2 Cytunodd yr Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol dros Drafnidiaeth i roi
gwybod i'r Pwyllgor faint o geisiadau (gan gynnwys ceisiadau aflwyddiannus) a
gyflwynodd pob cenedl ddatganoledig a'r DU yn ystod cyfnod y rhaglen rhwng 2007
a 2013. |
|
Papurau i’w nodi (14.30). Dogfennau ategol: Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: 6.1 Nododd y Pwyllgor y dogfennau ategol a ganlyn: Cofnodion y cyfarfod blaenorol |