Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Policy: Siân Phipps
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
Trawsgrifiad |
|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Julie James AC, Alun Ffred Jones AC a David Rees AC. Dirprwyodd Mike Hedges AC ar ran Julie James AC. |
|
Strwythur y Diwydiant Rheilffyrdd: tystiolaeth gan y Ganolfan Ymchwil ar Newid Economaidd-ddiwylliannol (09.30-10.30) Tystion: ·
Karel
Williams, Athro Cyfrifo
a'r Economi Wleidyddol, Ysgol Fusnes Manceinion, Cyfarwyddwr y ganolfan ymchwil
newid economaidd-ddiwylliannol y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol Dogfennau ategol: EBC(4)-40-13(p1) – The
Conceit of Enterprise: Train Operators and Trade Narrative (saesneg yn unig) Papur
preifat (Briff yr
Aelodau ar gyfer eitemau 2 a 3) Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Karel Williams, Athro ym maes Cyfrifeg a’r Economi Wleidyddol, Ysgol Fusnes Manceinion, a Chyfarwyddwr Canolfan Ymchwil a Newid Economaidd-ddiwylliannol y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol. |
|
Rheoliadau TEN-T a CEF (Cynhadledd fideo) (10.45-11.45) Tystion: ·
Herald
Ruijters, Cyfarwyddwr Cyffredinol Symudedd a Thrafnidiaeth (MOVE), y Comisiwn
Ewropeaidd ·
Philippe
Chantraine, Cyfarwyddwr Cyffredinol Symudedd a Thrafnidiaeth (MOVE), y Comisiwn
Ewropeaidd Cofnodion: 3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Herald Ruijters, Philippe Chantraine a Joao Ferreira, a oedd oll yn cynrychioli Cyfarwyddiaeth Gyffredinol ar gyfer Symudedd a Thrafnidiaeth (MOVE) y Comisiwn Ewropeaidd. |
|
Papurau i’w nodi Dogfennau ategol: EBC(4)-40-13(p2) - Llythyr at Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a
Thrafnidiaeth CLA(4)-40-13(p3) – Ymateb y Gweinidog EBC(4)-40-13(p4) -Llythyr at y Gweinidog Addysg a Sgiliau CLA(4)-40-13(p5) – Ymateb y Gweinidog Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1 Nododd y Pwyllgor gofnodion y cyfarfod blaenorol. |
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y canlynol: Cofnodion: 5.1 Penderfynodd y Pwyllgor wahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y canlynol: ôl-drafodaeth, trafod yr adolygiad o waith a’r flaenraglen waith, y papur cwmpasu ar yr ymchwiliad arfaethedig i Gyllid yr UE 2014-2020 a’r drafodaeth yr wythnos nesaf ynghylch yr adroddiad drafft ar ddyfodol Masnachfraint Rheilffyrdd Cymru a’r Gororau. |
|
Ôl-drafodaeth a thrafod yr adolygiad o waith a’r flaenraglen waith (13.00-13.40) Dogfennau
ategol: Papur
preifat: Adolygiad a
blaenraglen waith Dogfennau ategol:
Cofnodion: 6.1 Sesiwn breifat: Cytunodd y Pwyllgor ar ei flaenraglen waith. |
|
Ymchwiliad i Gyllid yr UE 2014-2020 (13.40-14.00) Dogfennau
ategol: Papur
preifat: Papur cwmpasu Dogfennau ategol:
Cofnodion: 7.1 Sesiwn
breifat: cytunodd y Pwyllgor ar y papur cwmpasu ar gyfer yr ymchwiliad i Gyllid
yr UE 2014-2020. |