Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Polisi: Siân Phipps  Dirprwy Glerc: Ffion Emyr Bourton

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Nid oedd dim ymddiheuriadau.

(09.00-09.30)

2.

Y wybodaeth ddiweddaraf am faterion Ewropeaidd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.2 Rhoddodd Gregg Jones y wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am faterion Ewropeaidd ac atebodd eu cwestiynau.

 

Camau i’w cymryd

Cytunodd Gregg Jones i ddarparu rhagor o wybodaeth am yr hyn a ganlyn:

·         y gostyngiad o 5% yn y dyraniad cyllid i Gymru

·         y gallu i gael gafael ar wahanol ffrydiau o gyllid ar yr un pryd

·         Fframwaith yr UE ar gyfer Cynlluniau Symudedd Dinesig Cynaliadwy

·         polisi porthladdoedd yr UE a’i effaith ar Gymru

3.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

3.1 Cytunwyd ar y cynnig.

(09.30-10.15)

4.

Horizon 2020 - Trafod yr adroddiad Cyfnod 2 drafft

Cofnodion:

4.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad, yn amodol ar fân ddiwygiadau.

(10.30-12.00)

5.

Bil Teithio Llesol (Cymru): Cyfnod 1 - Trafod yr adroddiad drafft

Cofnodion:

5.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad, yn amodol ar fân ddiwygiadau.