Ymchwiliad i Horizon 2020

Ymchwiliad i Horizon 2020

Cynhaliodd y Pwyllgor Menter a Busnes ymchwiliad byr i'r cynigion Horizon 2020, a gyhoeddwyd gan y Comisiwn Ewropeaidd ym mis Tachwedd 2011.

 

 

Roedd y Pwyllgor wedi ystyried y cysylltiadau posibl rhwng Horizon 2020 a’r cynigion a wnaed ar gyfer Cronfeydd Strwythurol yr Undeb Ewropeaidd, yn benodol o ran creu synergeddau gyda’r nod o wella perfformiad cyffredinol prifysgolion a busnesau Cymru mewn perthynas â rhaglenni ymchwil yr UE.

 

Cylch gorchwyl

 

  • asesu effeithiau posibl cynigion deddfwriaethol drafft y Comisiwn Ewropeaidd ar gyfer Horizon 2020 yn y dyfodol ar Gymru, boed yn rhai cadarnhaol neu’n rhai negyddol;
  • gwneud argymhellion i Weinidogion Cymru ynghylch yr hyn y dylai Llywodraeth Cymru ei flaenoriaethu wrth geisio dylanwadu ar safbwynt Llywodraeth y DU yng Nghyngor y Gweinidogion, a bwydo’r argymhellion hyn i mewn i’r trafodaethau sy’n cael eu cynnal ym Mrwsel (gan gynnwys y trafodaethau yn Senedd Ewrop);
  • asesu’r cyfleoedd sydd ar gael i greu synergeddau rhwng Horizon 2020 a Chronfeydd Strwythurol yr UE yng Nghymru yn y dyfodol, gyda’r nod o wella cyfranogiad Cymru yn Horizon 2020.
  • ystyried sut y mae strategaeth gwyddoniaeth Cymru, a pholisïau eraill Llywodraeth Cymru sy’n berthnasol i’r mater dan sylw, yn ceisio cynyddu’r cyfleoedd sydd ar gael i sefydliadau yng Nghymru i elwa ar gyllid ymchwil ac arloesi’r UE yn y dyfodol.

 

Linc i’r cynigion:

http://ec.europa.eu/research/horizon2020/index_en.cfm

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 31/05/2013

Dogfennau

Ymgynghoriadau