Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd

Cyswllt: Policy: Siân Phipps  Legislation: Liz Wilkinson

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

 

1.1 Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Julie James. Nid oedd unrhyw ddirprwyon yn bresennol.

(11:00 - 11:15)

2.

Y Bil Teithio Llesol (Cymru): Cyfnod 1 - Dull o graffu

Cofnodion:

 

2.1 Cytunodd y Pwyllgor ar ei ddull o graffu ar y Bil Teithio Llesol (Cymru) a’r fframwaith ar ei gyfer, a chytunodd i lansio ymgynghoriad cyhoeddus ddydd Gwener 22 Chwefror.

(11.30-12.30)

3.

Polisi y Sector Economaidd - Sesiwn i graffu ar waith y Gweinidog

 

Edwina Hart AC, y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth

 

Jeff Collins, Cyfarwyddwr Cyflawni, yr Adran Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth

 

Tracey Burke, Cyfarwyddwr, Strategaeth, yr Adran Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

 

3.1. Croesawodd y Cadeirydd y Gweinidog a’i swyddogion i’r cyfarfod. Holodd yr Aelodau y Gweinidog a’i swyddogion.

 

Camau i’w cymryd

Cytunodd y Gweinidog i roi gwybodaeth ychwanegol i’r Pwyllgor am y materion a ganlyn:

·         Yr amserlen ar gyfer cyfarfodydd panelau’r sectorau sy’n dangos faint o weithiau y maent wedi cwrdd hyd yn hyn a pha mor aml y byddant yn cwrdd yn y dyfodol.

·         Eglurhad o’r newidiadau i gyllideb yr Adran Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth ar ddiwedd y flwyddyn ariannol hon a’r allbwn a gafwyd o’r gyllideb sectorau a chyflenwi busnes yn 2012/13.

·         Y datganiad a gyhoeddwyd ar Busnes Cymru ac unrhyw wybodaeth ychwanegol arall am y rhaglen.

·         Gwybodaeth am beth yw dangosyddion perfformiad allweddol yr Adran ar gyfer y sectorau ar ôl yr arolwg presennol.

·         Ffigurau cywir ar fewnfuddsoddi yng Nghymru.

·         Rhagor o wybodaeth am y strategaeth brandio ar gyfer y sectorau.

 

4.

Papurau i'w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

 

4.1 Nododd y Pwyllgor ohebiaeth gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau.

 

4.2 Nododd y Pwyllgor ohebiaeth gan y Prif Weinidog ar Faes Awyr Caerdydd.