Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Llinos Dafydd 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau na dirprwyon.

(09.45 - 10.00)

2.

Ymchwiliad i ofal preswyl ar gyfer pobl hyn - cytuno ar y cylch gorchwyl

HSC(4)-08-11 papur 1

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cytunodd y Pwyllgor ar welliannau i’r cylch gorchwyl drafft, ac ar y ffaith y bydd yr ymgynghoriad yn cael ei lansio ar 24 Hydref.

(10.00 - 11.30)

3.

Cyllideb ddrafft 2012 -13: craffu ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol

HSC(4)-08-11 papur 2

 

Lesley Griffiths AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Gwenda Thomas AC, y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol

Chris Hurst, Cyfarwyddwr Adnoddau

Steve Milsom, Dirprwy Gyfarwyddwr yr Is-Adran Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolion

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Bu’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn ateb cwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor ynghylch cyllideb ddrafft 2012-13.

 

3.2 Cytunodd y Gweinidog i roi gwybodaeth ychwanegol i’r Pwyllgor am gyllid sydd wedi’i neilltuo ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl, a manylion ynghylch sut y bydd yr £83 miliwn ychwanegol yn cael ei ddyrannu i fyrddau iechyd.

 

3.3 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu gwybodaeth i’r Pwyllgor am effaith y system presgripsiynau am ddim.

 

3.4 Bu’r Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol yn ateb cwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor ynghylch cyllideb ddrafft 2012 -13.

 

3.5 Cytunodd y Dirprwy Weinidog i rannu â’r Pwyllgor adroddiad gan awdurdodau lleol ar ddigonolrwydd lefel y cyllid sydd ar gael ar gyfer y pecyn gwella camau cyntaf, pan fydd yr adroddiad ar gael.

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.24(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer eitem 5

Cofnodion:

4.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig.

(11.30 - 12.00)

5.

Cyllideb ddrafft 2012-13: trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

5.1 Bu’r Pwyllgor yn ystyried y dystiolaeth a gafwyd.

Trawsgrifiad