Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Llinos Madeley
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1. Ni chafwyd unrhyw
ymddiheuriadau. |
||
(09:30 - 10:30) |
Ymchwiliad i'r mynediad at dechnolegau meddygol yng Nghymru: Sesiwn dystiolaeth 1 - Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru Gyfan Karen Samuels, Pennaeth Arfarnu Technoleg Iechyd a Rheoli Meddyginiaethau,
Canolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan. Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1. Ymatebodd Karen Samuels i gwestiynau gan aelodau'r Pwyllgor. 2.2. Nododd Ms Samuels fod yr Uned Cymorth Presgripsiynu Dadansoddol Cymru
wedi bod yn monitro'r defnydd a wneir o feddyginiaethau a arfarnwyd gan AWMSG a
NICE, a chytunodd i rannu'r papur yn amlinellu canlyniadau'r monitro hwnnw
gyda'r Pwyllgor. |
|
(10:45 - 11:45) |
Ymchwiliad i'r mynediad at dechnolegau meddygol yng Nghymru: Sesiwn dystiolaeth 2 - Cymdeithas Diwydiant Fferyllol Prydain Dr Richard Greville, Cyfarwyddwr Joanne Ferris, Swyddog Gweithredol Polisi a Phrosiect Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1. Ymatebodd y Dr Rick Greville i gwestiynau gan aelodau'r Pwyllgor. 3.2. Mewn ymateb i gwestiwn y Cadeirydd mewn perthynas â phrofiad ABPI o
Raglen Mabwysiadu Technolegau Iechyd NICE, dywedodd y Dr Greville nad oedd
ganddo brofiad uniongyrchol o'r broses hon, ond y gallai ofyn am ragor o
wybodaeth ar ran y Pwyllgor. 3.3. Yn ystod y sesiwn, cytunodd y Dr Richard Greville i ddarparu'r
wybodaeth ychwanegol a ganlyn:
|
|
Papurau i’w nodi Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1. Nododd y Pwyllgor y papurau. |
||
(11:45) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd ar gyfer eitem 6 ar agenda heddiw ac o’r cyfarfod fore 30 Ionawr 2014 Cofnodion: 5.1. Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig. |
|
(11:45 - 12:00) |
Ystyried cynllun gwaith y Pwyllgor o ran yr ymchwiliad i argaeledd gwasanaethau bariatrig Cofnodion: 6.1. Cytunodd y Pwyllgor i gynnal dau ymweliad allanol ar gyfer yr
ymchwiliad i argaeledd gwasanaethau bariatrig: i Brifysgol Abertawe ac Ysbyty
Treforys ar 13 Chwefror, ac i sesiwn grŵp ffocws yng Nghasnewydd ar 12
Mawrth. Cafodd yr holl wariant sy'n gysylltiedig â'r ddau ymweliad ei gytuno
gan y Pwyllgor. |