Ymchwiliad i argaeledd gwasanaethau bariatrig

Ymchwiliad i argaeledd gwasanaethau bariatrig

Cynhaliodd Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cynulliad Cenedlaethol Cymru ymchwiliad i argaeledd gwasanaethau bariatrig yn ystod tymor y gwanwyn 2014.

 

Nod yr ymchwiliad oedd adolygu'r ddarpariaeth o wasanaethau bariatrig – yn enwedig llawdriniaethau – yng Nghymru, a nodi meysydd lle y gallai camau pellach fod yn effeithiol.

 

Cylch gorchwyl yr ymchwiliad oedd trafod:

  • Effeithiolrwydd gwasanaethau arbenigol, o fewn lefelau 3 a 4 o Lwybr Gordewdra Cymru Gyfan Llywodraeth Cymru, o ran mynd i'r afael â'r nifer cynyddol o bobl sy'n rhy drwm a gordew yng Nghymru, a sut y caiff y gwasanaethau hyn eu mesur a'u gwerthuso, gan gynnwys sicrhau gwerth am arian; 
  • Meini prawf cymhwysedd y cleifion ac argaeledd llawdriniaethau i drin gordewdra a gwasanaethau rheoli pwysau arbenigol ledled Cymru;  
  • Y cynnydd a wnaed gan Fyrddau Iechyd Lleol ar yr argymhellion a amlygwyd yn adroddiad Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru ar yr Adolygiad o'r Ddarpariaeth Llawdriniaethau Bariatrig a'r Meini Prawf ar gyfer Mynediad yng Nghyd-destun Llwybr Gordewdra Cymru Gyfan; 
  • Lefel y buddsoddiad sydd wedi'i neilltuo eisoes i ddarparu llawdriniaethau bariatrig yng Nghymru; ac 
  • Argaeledd llawdriniaethau i drin gordewdra a gwasanaethau rheoli pwysau arbenigol ledled Cymru. 

Tystiolaeth gan y Cyhoedd

 

Cynhaliodd y Pwyllgor ymgynghoriad cyhoeddus i gasglu tystiolaeth am y testun yma.

 

Tystiolaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol

 

Derbyniodd y Pwyllgor tystiolaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol (PDF, 49KB).

 

Gweithgareddau ymgysylltu

 

Nodyn a gofnodwyd yn y cinio i drafod gwaith gydag academyddion Prifysgol Abertawe, 13 Chwefror 2014 (PDF, 39KB)

 

Nodyn o'r ymweliad â Sefydliad Llawfeddygaeth Gordewdra a Metabolaidd Cymru ar 13 Chwefror 2014 (PDF, 28KB)

 

Nodyn o ddigwyddiad y grŵp ffocws a gynhaliwyd ar 12 Mawrth 2014 (PDF, 32KB)

 

Adroddiad y Pwyllgor

 

Cyflwynodd y Pwyllgor ei adroddiad (PDF, 976KB) yn Mai 2014. Ymatebodd Llywodraeth Cymru (PDF, 54KB) yn Gorffennaf 2014.

 

Dadl yn y Cyfarfod Llawn:

 

Cynhaliwyd y ddadl yn y Cyfarfod Llawn ar adroddiad y Pwyllgor ar yr ymchwiliad i'r cynnydd sydd wedi'i wneud hyd yma ar weithredu Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser Llywodraeth Cymru ar 16 Gorffennaf 2014.

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 29/11/2013

Dogfennau

Ymgynghoriadau