Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd

Cyswllt: Llinos Dafydd 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Kirsty Williams. Nid oedd dirprwyon.

(09.15 - 09.35)

2.

Ymchwiliad i’r cyfraniad a wneir gan fferyllfeydd cymunedol i wasanaethau iechyd yng Nghymru - Trafod y prif faterion

Cofnodion:

2.1 Bu’r Pwyllgor yn ystyried y prif faterion yn ei ymchwiliad i’r cyfraniad a wneir gan fferyllfeydd cymunedol i wasanaethau iechyd yng Nghymru.

(09.35 - 09.45)

3.

Blaenraglen waith - Trafodaeth bellach ynghylch sesiynau tystiolaeth un-tro

HSC(4)-05-12 papur 1

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod ei flaenraglen waith. Yn dilyn ei seminar anffurfiol ar fynediad at feddyginiaethau, cytunodd y Pwyllgor y byddai’n cynnal ymchwiliad byr i fynediad at driniaethau yng Nghymru. 

 

3.2 Cytunodd y Pwyllgor na fyddai’n trefnu pedwerydd sesiwn dystiolaeth un-tro, a hynny er mwyn caniatáu digon o hyblygrwydd yn y flaenraglen waith fel y gall y Pwyllgor ymateb i faterion a allai godi.

 

3.3 Cytunodd y Pwyllgor i ystyried ei flaenraglen waith eto cyn toriad y Pasg.

 

(09.45 - 10.30)

4.

Ymchwiliad i ofal preswyl i bobl hyn - trafodaeth â Jean-Pierre Girard mewn perthynas â thystiolaeth ysgrifenedig a gomisiynwyd gan Gydweithredwyr Cynyddol Cymru

HSC(4)-05-12 papur 2a – ymateb ymgymghoriad

HSC(4)-05-12 papur 2b – gwybodaeth ychwanegol

Jean-Pierre Girard, arbennigwr ar ddatblygiad a rheolaeth sefydliadau cydweithredol, di-elw a cilyddol (enwebwyd gan Gydweithredwyr Cynyddol Cymru)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1Ymatebodd  Jean-Pierre Girard i gwestiynau gan y Pwyllgor ar fodel cydweithredol gofal yn y cartref i bobl hŷn yn Québec.

5.

Papurau i'w nodi

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Ionawr

          HSC(4)-03-12 cofnodion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Nododd y Pwyllgor gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Ionawr.

Trawsgrifiad