Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd

Cyswllt: Llinos Dafydd 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Kirsty Williams.  Nid oedd dim dirprwyon.

(09.30 - 12.00)

2.

Ymchwiliad i ofal preswyl i bobl hyn - tystiolaeth gan ddefnyddwyr gwasanaethau, eu teuluoedd a'u gofalwyr

Cofnodion:

2.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor ynghylch gofal preswyl i bobl hŷn.

 

2.2 Gwnaeth y Pwyllgor gais am gopi o adroddiad y Sefydliad Gofal Cymdeithasol er Rhagoriaeth ar ansawdd y ddarpariaeth cartrefi gofal a gaiff ei darparu gan wahanol sectorau.

 

2.3 Gwnaeth y Pwyllgor gais am gopi o adroddiad y Comisiwn ar Wella Urddas wrth Ofalu am Bobl Hŷn ar Ddarparu Urddas.

(09.30 - 10.20)

2a

Safbwynt pobl hyn

HSC(4)-07-12 papur 1

Nancy Davies, Fforwm Pensiynwyr Cymru

Haydn Evans, Fforwm Pensiynwyr Cymru

 

HSC(4)-07-12 papur 2

Phil Vining, Age Concern Caerdydd a’r Fro

Linda Thomas, Age Concern Caerdydd a’r Fro

Dogfennau ategol:

(10.20 - 11.10)

2b

Profiad pobl sydd wedi colli defnydd o synhwyrau

 

HSC(4)-07-12 papur 3

Rebecca Woolley, Action on Hearing Loss Cymru

Ansley Workman, RNIB Cymru

Sue Brown, Sense Cymru

 

EGWYL (11.10 – 11.20)

 

Dogfennau ategol:

(11.20 - 12.00)

2c

Safbwynt gofalwyr

Roz Williamson, Cynhalwyr Cymru

Dr Rosie Tope, Pwyllgor Gofalwyr Cymru

3.

Papurau i'w nodi

3a

Gohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol - gwybodaeth ychwanegol yn dilyn y sesiwn graffu ar 25 Ionawr

HSC(4)-04-12 papur 4

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

3b

Ymchwiliad i ofal preswyl i bobl hŷn - Papur atodol gan Yr Athro John Bolton

HSC(4)-07-12 papur 5

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.2 Nododd y Pwyllgor y papur gan Yr Athro John Bolton.

3c

Deiseb P-03-295 Kyle Beere - Gwasanaethau Niwroadsefydlu Paediatrig

HSC(4)-07-12 papur 6

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.3 Cytunodd y Pwyllgor i aros am ganlyniad sesiwn dystiolaeth y Pwyllgor Deisebau cyn gweithredu ymhellach.

3d

Deiseb P-04-362 Gwasanaethau Ambiwlans ym Mynwy

HSC(4)-07-12 papur 7

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.4 Cytunodd y Pwyllgor i aros am ymatebion y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ac Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru i’r Pwyllgor Deisebau cyn ystyried unrhyw waith ar y mater hwn.

Trawsgrifiad