Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Llinos Madeley
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau. |
|
Ymchwiliad i leihau’r risg o strôc - tystiolaeth gan y Gymdeithas Ffibriliad Atrïaidd (09.30 - 10.30) HSC(4)-03-11 papur 1 · Jo Jerrome, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Ymatebodd y tyst i gwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor ar leihau’r risg o strôc. |
|
Ymchwiliad i leihau’r risg o strôc - tystiolaeth gan y Gymdeithas Strôc (10.30 - 11.30) HSC(4)-03-11 papur 2 · Ana Palazòn, Cyfarwyddwr Cymru · Paul Underwood, Dirprwy Cyfarwyddwr Cymru · Lowri Griffiths, Pennaeth Cyfathrebu a Materion Allanol Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor ar leihau’r risg o strôc. 3.2 Cytunodd y Pwyllgor y dylai ofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasnaethau Cymdeithasol am bapur ar roi’r Cynllun Gweithredu i Leihau’r Risg o Strôc ar waith. 3.3 Cytunodd y Pwyllgor y dylai geisio gwybodaeth am gyfranogiad darparwyr gwasanaethau cymdeithasol i’r byrddau partneriaeth strôc. 3.4 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Prif Gynghorydd Fferyllol i roi gwybod iddo am yr ymchwiliad i leihau’r risg o strôc. |
|
Craffu ar Gyllideb Ddrafft 2012-13 - ystyried y dull gweithredu (11.30 - 11.40) HSC(4)-03-11 papur 3 Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.1 Cytunodd y Pwyllgor y bydd yn cynnal trafodaeth preifat gyda rhanddeiliaid cyn ei sesiwn dystiolaeth gyda’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y gyllideb ddrafft ar gyfer 2012-13. |
|
Ymchwiliad i ofal preswyl i oedolion - papur cwmpasu (11.40 - 11.50) HSC(4)-03-11 papur 4 Dogfennau ategol: Cofnodion: 5.1 Cytunodd y Pwyllgor y bydd yn cynnal ymchwiliad i ofal preswyl ar gyfer pobl hŷn ac y bydd yn trafod y cylch gorchwyl draft yn ei gyfarfod 28 Medi. 5.2 Cytunodd y Pwyllgor y dylid anfon cylch gorchwyl draft yr ymchwiliad at randdeiliaid ac y dylid caniatáu cyfnod o bythefnos er mwyn iddynt gyflwyno’u sylwadau. |
|
Ymchwiliad y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc i Iechyd y Geg mewn Plant yng Nghymru - llythyr gan y Cadeirydd (11.50 - 11.55) HSC(4)-03-11 papur 5 Dogfennau ategol: Cofnodion: 6.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc ar ei ymchwiliad i iechyd y geg mewn plant. |
|
Papur i'w nodi: Blaenraglen waith y Pwyllgor - Hydref 2011 (11.50 - 12.00) HSC(4)-03-11 papur 6 Dogfennau ategol: Cofnodion: 7.1 Nododd y Pwyllgor y papur a chytunodd y dylid cyhoeddi’r blaenraglen waith yn rheolaidd. |
|
Trawsgrifiad |