Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd

Cyswllt: Llinos Madeley 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1. Apologies were received from Elin Jones AM, Kirsty Williams AM and Darren Millar AM.

 

(13:00 - 14:30)

2.

Sesiwn graffu gyffredinol gyda’r Prif Swyddog Nyrsio

Yr Athro Jean White, Prif Swyddog Nyrsio Cymru

Polly Ferguson, Swyddog Nyrsio Iechyd Atgenhedlol Menywod

Helen Whyley, Swyddog Nyrsio Gweithlu, Addysg, Rheoleiddio a Diogelwch Cleifion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1. Bu'r Prif Swyddog Nyrsio a'i swyddogion yn ateb cwestiynau gan aelodau'r Pwyllgor.

 

2.2. Yn ystod y sesiwn, cytunodd y Prif Swyddog Nyrsio i ddarparu'r wybodaeth ychwanegol a ganlyn:

  • Nodyn yn manylu sut mae adroddiadau a gynhyrchwyd gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru wedi cael effaith uniongyrchol ar ei gwaith;
  • Rhagor o fanylion am rôl gwasanaethau gweithlu, addysg a datblygu Llywodraeth Cymru yn y broses cynllunio gweithlu, gan gynnwys gwybodaeth ynghylch y dangosyddion a ddefnyddir wrth bennu cynlluniau gweithlu;
  • Nodyn ynghylch nifer y nyrsys ardal a chymunedol yng Nghymru;
  • Rhagor o fanylion ynghylch y cod hylendid sy'n cael ei ddatblygu gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ar ran y Prif Swyddog Nyrsio, a chadarnhad ynghylch pryd fydd y gwaith wedi'i gwblhau.

2.3. Cytunodd y Prif Swyddog Nyrsio i rannu'r copi diweddaraf o'r adroddiad rheolaidd y mae'n ei chael oddi wrth adran Cymru o'r fenter “Cryfhau'r Ymrwymiad”, sy'n rhedeg ledled y DU, sy'n ymwneud â nyrsio anableddau dysgu.

 

(14:30)

3.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd ar gyfer gweddill y cyfarfod

Cofnodion:

3.1. Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig. 

(14:30 - 15:00)

4.

Trafod cwmpas ymchwiliadau posibl yn y dyfodol i wasanaethau orthodontig yng Nghymru a chynllun cyflawni ar gyfer canser Llywodraeth Cymru

Cofnodion:

4.1. Cytunodd y Pwyllgor ar gylch gorchwyl y ddau ymchwiliad a chytunodd i ofyn am dystiolaeth maes o law.

 

5.

Papurau i'w nodi

Cofnodion y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol 16 Ionawr 2014

 

Cofnodion y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol 22 Ionawr 2014

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1. Nododd y pwyllgor gofnodion ei ddau gyfarfod blaenorol.