Sesiwn graffu gyffredinol gyda’r Prif Swyddog Nyrsio
Mae'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
wedi craffu yn gyfnodol ar waith Prif Swyddog Nyrsio Cymru.
Prif
Swyddog Nyrsio Cymru yw pennaeth proffesiynau Nyrsio a Bydwreigiaeth GIG Cymru ac
mae'n gyfrifol am:
- berfformiad a datblygiad proffesiynol Cyfarwyddwyr
Nyrsio a'r proffesiwn nyrsio;
- darparu cyfraniad proffesiynol arbenigol ar nyrsio,
bydwreigiaeth a materion nyrsys iechyd y cyhoedd cymunedol arbenigol i
Lywodraeth Cymru.
Mae rhagor o wybodaeth am waith y
Prif Swyddog Nyrsio ar gael ar ei gwefan.
Math o fusnes: Arall
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 07/03/2016