Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Llinos Madeley 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Ni chafwyd ymddiheuriadau.

 

(09.15 - 10.15)

2.

Ymchwiliad i’r cynnydd a wnaed hyd yma ar weithredu Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser Llywodraeth Cymru: Sesiwn dystiolaeth 7

Mark Drakeford AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Grant Duncan, Dirprwy Gyfarwyddwr Yr Is-Adran Polisi Gofal Iechyd

Chris Jones, Dirprwy Prif Swyddog Meddygol

Carys Thomas, Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Bu’r Gweinidog yn ateb cwestiynau gan Aelodau.

2.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu’r hyn a ganlyn:

·         nodyn ar ddarparu triniaeth a gwasanaethau i gleifion sydd â thiwmorau niwroendocrin ar lefel Cymru-gyfan fel enghraifft o wasanaethau yn cael eu darparu ar gyfer canserau llai cyffredin;

·         cadarnhad bod y dechnoleg yn ei lle i gefnogi’r gwaith o adrodd yn amserol ar yr adolygiadau o’r achosion o ganser yr ysgyfaint a chanser gastroberfeddol yr ymdrinnir â hwy gan bob meddyg teulu yng Nghymru yn 2014 ar lefel meddyg teulu, lefel clwstwr meddygon teulu a’r lefel genedlaethol;

·         nodyn i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor ar y trafodaethau tairochrog ar reoliadau drafft yr Undeb Ewropeaidd ar ddiogelu data, a’r effaith bosibl ar ymchwil canser yng Nghymru;

·         y papur a gyflwynwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i ymchwiliad Pwyllgor Gwyddoniaeth a Thechnoleg Tŷ’r Cyffredin i Sgrinio Iechyd Cenedlaethol;

·         nodyn i egluro a oes adnoddau a chapasiti ar gael ar gyfer sgrinio coluddion yng Nghymru.

 

3.

Papurau i’w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Nododd yr aelodau y wybodaeth ychwanegol a ddarparwyd gan dystion a oedd yn bresennol yng nghyfarfod y Pwyllgor ar 8 Mai 2014 mewn perthynas â’r ymchwiliad i wasanaethau orthodontig yng Nghymru.

 

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(10.15 - 10.45)

5.

Ystyried dull y Comisiwn o ymchwilio i gyffuriau penfeddwol cyfreithlon

Cofnodion:

5.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod y dull gweithredu ar gyfer ei ymchwiliad i sylweddau seicoweithredol newydd ("cyffuriau penfeddwol cyfreithlon") a chytunodd ar y dull a drafodwyd.