Ymchwiliad i'r cynnydd sydd wedi'i wneud hyd yma ar weithredu Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser Llywodraeth Cymru
Mae Pwyllgor
Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cynnal
ymchwiliad i'r cynnydd sydd wedi'i wneud hyd yma ar weithredu Cynllun Cyflawni
ar gyfer Canser Llywodraeth Cymru.
Cylch gorchwyl yr ymchwiliad oedd archwilio'r cynnydd
sydd wedi'i wneud o ran gweithredu'r Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser yng
Nghymru, gan gynnwys:
- A yw Cymru ar y trywydd iawn i gyflawni'r canlyniadau a'r mesurau
perfformiad, fel y'u nodir yn y Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser, erbyn
2016;
- Y cynnydd o ran lleihau'r bwlch anghydraddoldebau mewn achosion o
ganser a chyfraddau marwolaethau;
- Effeithiolrwydd gwasanaethau sgrinio ar gyfer canser a lefel y defnydd
o fewn poblogaeth Cymru, yn arbennig y grwpiau sy'n fwy anodd eu cyrraedd;
- A all cleifion ledled Cymru gael mynediad at y gofal sydd ei angen (er
enghraifft, mynediad at brofion diagnostig neu ofal y tu allan i oriau)
mewn lleoliad priodol ac mewn modd amserol;
- Lefel y cydweithio o fewn sectorau, yn arbennig rhwng y GIG a'r
trydydd sector, er mwyn sicrhau bod cleifion yn derbyn gofal effeithiol
sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn gan dimau amlddisgyblaethol;
- A yw'r lefel bresennol o gyllid ar gyfer gwasanaethau canser yn
briodol, yn cael ei ddefnyddio'n effeithiol ac yn sicrhau gwerth am arian.
Tystiolaeth
gan y Cyhoedd
Cynhaliodd y Pwyllgor ymgynghoriad cyhoeddus i gasglu tystiolaeth
am y testun yma.
Gweithgareddau
ymgysylltu
Nodyn
o weithdai a gynhaliwyd ym mis Mai 2014
Nodyn
ar drafodaeth y grŵp ffocws,14 Mai 2014
Gwybodaeth
ychwanegol
Gwybodaeth
ychwanegol gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (PDF, 200KB)
Storify
Storify gan y Pwyllgor o'i ymchwiliad.
Adroddiad y Pwyllgor
Cyflwynodd
y Pwyllgor ei adroddiad
(PDF, 651KB) yn Hydref 2014. Mae crynodeb
o’r adroddiad
(PDF, 696KB) ar gael hefyd. Ymatebodd Llywodraeth Cymru
(PDF, 197KB) yn Rhagfyr 2014.
Dadl yn y Cyfarfod Llawn:
Cynhaliwyd y ddadl yn y Cyfarfod Llawn ar adroddiad y
Pwyllgor ar yr ymchwiliad i'r cynnydd sydd
wedi'i wneud hyd yma ar weithredu Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser Llywodraeth
Cymru ar 10
Rhagfyr 2014.
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 10/02/2014
Dogfennau
Ymgynghoriadau