Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Llinos Madeley 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Kirsty Williams.

 

(09.30 - 10.30)

2.

Ymchwiliad i’r cynnydd hyd yma ar weithredu Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser Llywodraeth Cymru: Sesiwn dystiolaeth 6

Sharon Hillier, Dirprwy Gyfarwyddwr Sgrinio, Iechyd Cyhoeddus Cymru

Dr Pat Riordan, Cyfarwyddwr Iechyd a Gwella Gofal Iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru

Dr Dyfed Huws, Cyfarwyddwr Uned Gwybodaeth ac Arolygaeth Canser Cymru (WCISU)

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.

2.2. Cytunodd Sharon Hillier i ddarparu gwybodaeth i'r Pwyllgor ynghylch nifer y menywod dros 70 oed sy'n hunan-gyfeirio ar gyfer gwasanaethau sgrinio canser y fron.

 

 

3.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y canlynol:

Eitem 4.

 

Cofnodion:

3.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(10.45 - 11.15)

4.

Gwaith craffu ar ôl deddfu ar Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 – trafod y trefniadau ar gyfer ymgynghori â'r cyhoedd

Cofnodion:

4.1 Ystyriodd y Pwyllgor y trefniadau ar gyfer yr ymgynghoriad cyhoeddus a chytunwyd arnynt.

 

5.

Papurau i’w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Nododd y Pwyllgor gofnodion y cyfarfod blaenorol.