Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Llinos Madeley 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(10:30 - 10:45)

1.

Trafod cynllun gwaith y Pwyllgor ar gyfer yr ymchwiliad i'r cynnydd sydd wedi'i wneud hyd yma ar weithredu Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser Llywodraeth Cymru

Cofnodion:

1.1 Gwnaeth y Pwyllgor drafod, diwygio a chytuno ar gynllun gwaith ar gyfer yr ymchwiliad i'r cynnydd sydd wedi'i wneud hyd yma ar weithredu Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser Llywodraeth Cymru.

 

(10:45 - 11:00)

2.

Trafod blaenraglen waith y Pwyllgor ar gyfer tymor yr haf 2014

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Bu'r Pwyllgor yn trafod ei flaenraglen waith ar gyfer Ebrill – Gorffennaf 2014.

 

2.2 Cytunodd y Pwyllgor i wahodd swyddogion y Llywodraeth i ddarparu papurau briffio ffeithiol, ar gyhoedd, ynghylch Papur Gwyn Iechyd y Cyhoedd sydd ar ddod a'r rheoliadau drafft ar feini prawf cymhwysedd sy'n deillio o'r Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru).

 

2.3 Yn unol â Rheol Sefydlog 17.34(ii), pleidleisiodd y Pwyllgor ar y cynnig a ganlyn, a gynigiwyd gan Elin Jones AC, ac a dderbyniwyd gan y Cadeirydd heb rybudd yn unol â Rheol Sefydlog 17.44:

 

Bod y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn neilltuo amser mewn cyfarfod yn y dyfodol i glywed tystiolaeth gan y Gwir Anrhydeddus Ann Clwyd AS, os ydyw ar gael, ynglŷn â'i gwaith mewn perthynas â chwynion ynghylch y GIG yn Lloegr a'r dystiolaeth y mae wedi cyfeirio ati yng nghyswllt cwynion ynghylch y GIG yng Nghymru.

 

Dyma ganlyniad y bleidlais:

 

O blaid

Yn erbyn

Ymatal

Elin Jones

Darren Millar

Janet Finch-Saunders

Lindsay Whittle

Kirsty Williams

Leighton Andrews

Rebecca Evans

Lynne Neagle

Gwyn Price

David Rees

 

 

0

 

 

5

5

0

Gan fod y bleidlais yn gyfartal, defnyddiodd y Cadeirydd ei bleidlais fwrw yn negyddol, yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii). Felly, gwrthodwyd y cynnig.

 

 

3.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Ni chafwyd ymddiheuriadau.

 

1.2 Croesawodd y Cadeirydd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'i swyddogion i'r cyfarfod.

 

(11:00 - 12:00)

4.

Ymchwiliad i argaeledd gwasanaethau bariatrig: Sesiwn dystiolaeth 2

Mark Drakeford AC, Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Dr Sarah Watkins, Is-adran Grwpiau Iechyd Meddwl ac Agored i Niwed Llywodraeth Cymru

Chris Tudor-Smith, Pennaeth Is-adran Gwella Iechyd, Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Holodd y Pwyllgor y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch argaeledd gwasanaethau bariatrig.

 

4.2 Yn ystod y sesiwn, awgrymodd y Gweinidog y byddai'n darparu gwybodaeth am y goblygiadau i'r GIG o ran cost y gwaith o roi llawdriniaethau cywirol i gleifion sydd wedi cael llawdriniaethau bariatrig y tu allan i Gymru.

 

Yn unol â Rheol Sefydlog 17.47, gohiriodd y Cadeirydd y cyfarfod rhwng 11.58 a 12.00

5.

Papurau i’w nodi

Cofnodion:

5.1 Nododd y Pwyllgor y papurau o'i ymchwiliad i argaeledd gwasanaethau bariatrig a llythyrau gan sefydliadau allanol yn cynnig ymchwiliadau i'w cynnal yn y dyfodol.

 

5a

Gwybodaeth ychwanegol o'r cyfarfod ar 13 Chwefror 2014

Dogfennau ategol:

5b

Nodyn a gofnodwyd yn y cinio i drafod gwaith gydag academyddion Prifysgol Abertawe, 13 Chwefror 2014

Dogfennau ategol:

5c

Nodyn a gofnodwyd yn y cyfarfod â chynrychiolwyr Sefydliad Llawdriniaeth Gordewdra a Metabolaidd Cymru, 13 Chwefror 2014

Dogfennau ategol:

5d

Nodyn a gofnodwyd yn y digwyddiad grŵp ffocws, Cwmbrân, 12 Mawrth 2014

Dogfennau ategol:

5e

Gohebiaeth gan Goleg Nyrsio Brenhinol Cymru – awgrym i gynnal ymchwiliad i nyrsio cymunedol

Dogfennau ategol:

5f

Gohebiaeth gan Crohn's and Colitis UK – awgrym i gynnal ymchwiliad i roi canllawiau cenedlaethol ar glefydau llid y coluddyn (IBD) ar waith

Dogfennau ategol: