Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Llinos Madeley 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Darren Millar, Gwyn Price a Kirsty Williams.

 

(09:15 - 10:05)

2.

Ymchwiliad i'r mynediad at dechnolegau meddygol yng Nghymru: Sesiwn dystiolaeth 8

Ymchwil Canser y DU

Emma Greenwood, Pennaeth Datblygu Polisi, Ymchwil Canser y DU

Clare Bath, Swyddog Materion Cyhoeddus Cymru

Dr  Tom Crosby, Cyfarwyddwr Clinigol Canolfan Ganser Felindre a Chyfarwyddwr Meddygol Rhwydwaith Canser De Cymru.

Bernadette McCarthy, Rheolwr Radiotherapi, Canolfan Ganser Felindre

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1. Bu’r tystion yn ateb cwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.

 

2.2 Rhoddodd Emma Greenwood wybod i'r Pwyllgor am y cydweithrediad diweddar rhwng Cancer Research UK a GIG Lloegr a oedd yn gofyn i grwpiau perthnasol o fewn y diwydiant sut roeddent yn rhagweld maes radiograffeg mewn deng mlynedd. Cytunodd Ms Greenwood i rannu gwybodaeth am y gwaith hwn gyda'r Pwyllgor.

 

(10:05 - 10:50)

3.

Ymchwiliad i'r mynediad at dechnolegau meddygol yng Nghymru: Sesiwn dystiolaeth 9

Cynghrair Geneteg y DU

Buddug Cope, Cyfarwyddwr Datblygu Cynghrair Geneteg y DU

Emma Hughes, Swyddog Datblygu Cynghrair Geneteg y DU

Hayley Norris, Cynrychiolwyr cleifion

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Bu’r tystion yn ateb cwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.

 

3.2 Cytunodd Buddug Cope i roi gwybodaeth i'r Pwyllgor am y cyswllt rhwng rhaglen technoleg iechyd NICE a Rhwydwaith Profi Geneteg y DU (UKGTN).

 

3.3 Cytunodd Ms Cope hefyd i roi eglurhad pellach i'r Pwyllgor am y gydberthynas rhwng cymeradwyo profion newydd gan UKGTN a'u comisiynu wedyn gan GIG yr Alban.

 

(11:00 - 12:00)

4.

Ymchwiliad i'r mynediad at dechnolegau meddygol yng Nghymru: Sesiwn dystiolaeth 10

MediWales

Gwyn Tudor, Rheolwr y Fforwm

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Bu’r tystion yn ateb cwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.

 

4.1 Cytunodd y Pwyllgor i drafod eitemau 6, 7 ac 8 cyn trafod eitem 5.

 

 

(13.00 - 14.00)

5.

Ymchwiliad i'r mynediad at dechnolegau meddygol yng Nghymru: Sesiwn dystiolaeth 11

Yr Athro Carl Heneghan, Canolfan Meddygaeth Seiliedig ar Dystiolaeth, Prifysgol Rhydychen

 

Partneriaeth Gwyddoniaeth Iechyd Academaidd De-ddwyrain Cymru

Dr Corinne Squire, Rheolwr

 

Rhwydwaith Gwyddoniaeth Iechyd Academaidd Gorllewin Lloegr

Lars Sundstrom, Cyfarwyddwr Menter a Chyfieithu

Deborah Evans, Rheolwr Gyfarwyddwr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Bu’r tystion yn ateb cwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.

 

5.2 Cytunodd Lars Sundstrom, Rhwydwaith Gwyddorau Iechyd Academaidd Gorllewin Lloegr, i ddarparu nodyn ar y system newydd sydd wedi'i chyflwyno yn Lloegr (sydd ar gael i sefydliadau yng Nghymru), sy'n caniatáu mynediad at gyllid ac yn rhoi ffordd o gomisiynu gwaith ymchwil a datblygu drwy'r system gofal iechyd.

 

6.

Papurau i’w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Nododd y Pwyllgor gofnodion y cyfarfodydd blaenorol.

 

6a

Llythyr gan y Prif Swyddog Nyrsio mewn perthynas â chamau gweithredu sy’n deillio o gyfarfod y Pwyllgor ar 30 Ionawr 2014

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6a.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Prif Swyddog Nyrsio.

 

7.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y canlynol:

Eitem 8.

Cofnodion:

7.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig i drafod eitem 8 yn breifat.

 

(14.05 - 14.20)

8.

Trafod ymateb y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i lythyr y Pwyllgor ynghylch yr ymchwiliad dilynol i leihau’r risg o strôc

Cofnodion:

8.1 Bu'r Pwyllgor yn trafod y llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch yr ymchwiliad dilynol i leihau'r risg o strôc.

 

8.2 Cytunodd y Pwyllgor y byddai'n trafod camau gweithredu yn ei gyfarfod cyhoeddus ar 20 Mawrth 2014.