Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Llinos Madeley 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1.      Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

(09:30 - 10:30)

2.

Ymchwiliad i'r mynediad at dechnolegau meddygol yng Nghymru: Sesiwn dystiolaeth 1 - Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru Gyfan

Karen Samuels, Pennaeth Arfarnu Technoleg Iechyd a Rheoli Meddyginiaethau, Canolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan.

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1. Ymatebodd Karen Samuels i gwestiynau gan aelodau'r Pwyllgor.

 

2.2. Nododd Ms Samuels fod yr Uned Cymorth Presgripsiynu Dadansoddol Cymru wedi bod yn monitro'r defnydd a wneir o feddyginiaethau a arfarnwyd gan AWMSG a NICE, a chytunodd i rannu'r papur yn amlinellu canlyniadau'r monitro hwnnw gyda'r Pwyllgor.

 

(10:45 - 11:45)

3.

Ymchwiliad i'r mynediad at dechnolegau meddygol yng Nghymru: Sesiwn dystiolaeth 2 - Cymdeithas Diwydiant Fferyllol Prydain

Dr Richard Greville, Cyfarwyddwr

Joanne Ferris, Swyddog Gweithredol Polisi a Phrosiect

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1. Ymatebodd y Dr Rick Greville i gwestiynau gan aelodau'r Pwyllgor.

 

3.2. Mewn ymateb i gwestiwn y Cadeirydd mewn perthynas â phrofiad ABPI o Raglen Mabwysiadu Technolegau Iechyd NICE, dywedodd y Dr Greville nad oedd ganddo brofiad uniongyrchol o'r broses hon, ond y gallai ofyn am ragor o wybodaeth ar ran y Pwyllgor.

 

3.3. Yn ystod y sesiwn, cytunodd y Dr Richard Greville i ddarparu'r wybodaeth ychwanegol a ganlyn:

  • copi o'r adroddiad a gomisiynwyd yn ddiweddar gan ABPI (o Brifysgol De Cymru) ynghylch y rhwystrau lleol i fabwysiadu meddyginiaethau a arfarnwyd, a fydd ar gael erbyn y Pasg 2014;
  • copi o'r adroddiad sy'n cael ei lunio gan y Swyddfa Economeg Iechyd, a fydd ar gael erbyn y Pasg 2014, a fydd yn edrych ar rwystrau i fabwysiadu meddyginiaethau a arfarnwyd sy'n codi yn benodol o ganlyniad i heriau cynllunio ac edrych tua'r dyfodol;
  • enghreifftiau'n ymwneud â defnyddio, neu ddiffyg defnyddio, meddyginiaethau a gymeradwywyd yng Nghymru, i gynnwys ystadegau sy'n dangos safle Cymru o gymharu â gwledydd eraill y DU.

 

4.

Papurau i’w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1. Nododd y Pwyllgor y papurau.

 

(11:45)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd ar gyfer eitem 6 ar agenda heddiw ac o’r cyfarfod fore 30 Ionawr 2014

Cofnodion:

5.1. Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

(11:45 - 12:00)

6.

Ystyried cynllun gwaith y Pwyllgor o ran yr ymchwiliad i argaeledd gwasanaethau bariatrig

Cofnodion:

6.1. Cytunodd y Pwyllgor i gynnal dau ymweliad allanol ar gyfer yr ymchwiliad i argaeledd gwasanaethau bariatrig: i Brifysgol Abertawe ac Ysbyty Treforys ar 13 Chwefror, ac i sesiwn grŵp ffocws yng Nghasnewydd ar 12 Mawrth. Cafodd yr holl wariant sy'n gysylltiedig â'r ddau ymweliad ei gytuno gan y Pwyllgor.