Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Llinos Madeley 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09:30)

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Darren Millar. Dirprwyodd Mohammad Asghar AC ar ei ran.

 

(09:30 - 11:00)

2.

Sesiwn graffu gyffredinol gyda’r Prif Swyddog Deintyddol

Tystion:

David Thomas - Prif Swyddog Deintyddol

Lisa Howells - Uwch Swyddog Deintyddol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cynhaliodd y Pwyllgor sesiwn graffu gyffredinol gyda David Thomas, y Prif Swyddog Deintyddol, a’i gydweithiwr Lisa Howells, sy’n Uwch-swyddog Deintyddol.

 

2.2 Cytunodd y Prif Swyddog Deintyddol i ddarparu’r canlynol i’r Pwyllgor:

 

·         gwybodaeth ychwanegol am y gwerthusiadau a wnaed mewn perthynas â safon a chanlyniadau’r cynlluniau peilot deintyddol ar gyfer plant a phobl ifanc;

·         gwybodaeth ychwanegol am y rhesymau pam na chaiff dyraniadau cyllid i ddeintyddfeydd unigol eu cyhoeddi mwyach;

·         copi o ganllawiau diwygiedig Iechyd Cyhoeddus Cymru ar ymdrin ag achosion o golli apwyntiadau, pan fyddant ar gael; 

·         nodyn ar y gwasanaethau orthodontig ychwanegol a gomisiynwyd yn ddiweddar gan Fwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda, a chopi o’r data ychwanegol ar weithgarwch orthodontig yng Nghymru y cyfeiriodd ato yn ystod y cyfarfod;

·         nodyn ar y camau y mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn eu cymryd mewn perthynas â gwynnu dannedd ac achosion o roi triniaeth ddeintyddol yn anghyfreithlon;

·         gwybodaeth am nifer yr ymweliadau deintyddol i’r cartref a gynhaliwyd yng Nghymru y llynedd.

 

(11:00)

3.

Papurau i’w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Nododd y Pwyllgor gofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 7 Tachwedd a 13 Tachwedd.

 

3a

Gwybodaeth ychwanegol a gyflwynwyd i’r ymchwiliad dilynol i leihau’r risg o strôc yn dilyn y sesiwn ar 23 Hydref

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3a.1 Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol mewn perthynas â’r ymchwiliad dilynol i leihau’r risg o strôc.

 

3b

Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol - darparwr brechiad sengl ar gyfer y frech goch

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3b.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol mewn perthynas â darparwyr brechiad sengl y frech goch.

 

3c

Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol - cynlluniau gofal heb ei drefnu a chynlluniau gaeaf ffurfiol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3c.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol mewn perthynas â chynlluniau gofal heb ei drefnu a chynlluniau gaeaf ffurfiol.

 

(11:05)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(11:15 - 11:30)

5.

Sesiwn graffu gyffredinol gyda’r Prif Swyddog Deintyddol - trafodaeth breifat i ystyried y dystiolaeth

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn y sesiwn gynharach gyda’r Prif Swyddog Deintyddol.

 

(11:30 - 11:45)

6.

Trafod y materion allweddol sy’n codi o’r ymchwiliad dilynol i leihau’r risg o strôc

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y materion allweddol sy’n codi o’r ymchwiliad dilynol i leihau’r risg o strôc a chytunodd i ysgrifennu’n fuan at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol gan amlinellu ei gasgliadau.

 

(11:45 - 12:00)

7.

Trafod y materion allweddol sy’n codi yn sgîl sesiwn graffu’r Pwyllgor ar ofal heb ei drefnu - bod yn barod ar gyfer gaeaf 2013/14

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor y materion allweddol sy’n codi o’r sesiwn graffu ar ofal heb ei drefnu - bod yn barod ar gyfer gaeaf 2013/14, a chytunodd i ysgrifennu’n fuan at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol gan amlinellu ei gasgliadau.

 

 

(12:00 - 12:15)

8.

Cylch Gorchwyl

Cofnodion:

8.1 Trafododd y Pwyllgor bapur ar gylchoedd gorchwyl pwyllgorau. Cytunodd y Cadeirydd i ysgrifennu at y Llywydd.