Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd
Cyswllt: Policy: Llinos Madeley Deddfwriaeth: Sarah Beasley/Fay Buckle/Steve George
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad |
||
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Cafwyd
ymddiheuriadau gan Kirsty Williams ar gyfer rhan gyntaf sesiwn y bore. Cafwyd ymddiheuriadau
gan Darren Millar ar gyfer sesiwn y prynhawn. |
||
(09:30 - 11:00) |
Cynlluniau i Ad-drefnu Gwasanaethau Byrddau Iechyd Lleol - Cynllun De Cymru: Rhaglen De Cymru Rhaglen De
Cymru ·
Paul
Hollard, Cyfarwyddwr y Rhaglen ·
Andrew
Goodall, Prif Weithredwr Arweiniol ·
Hamish
Laing, Cyfarwyddwr Strategaeth Glinigol Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro
Morgannwg / Aelod o Dîm Rhaglen De Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1
Ymatebodd y cynrychiolwyr o Raglen De Cymru i gwestiynau gan aelodau’r
Pwyllgor. 2.2
Gofynnodd y Pwyllgor i Raglen De Cymru gyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor am y
ffordd y mae pob bwrdd iechyd lleol unigol wedi asesu ac ystyried effaith
ariannol cynlluniau ad-drefnu de Cymru. |
|
(11:10 - 12:10) |
Cynlluniau i Ad-drefnu Gwasanaethau Byrddau Iechyd Lleol - Cynllun De Cymru: Deoniaeth Cymru a’r Fforwm Clinigol Cenedlaethol Deoniaeth
Cymru ·
Yr Athro
Peter Donnelly, Dirprwy Ddeon ·
Dr Helen
Fardy, Arweinydd Clinigol Ad-drefnu Gwasanaethau Pediatrig ·
Dr
Jeremy Gasson, Arweinydd Clinigol Ad-drefnu Gwasanaethau Obstetreg a Gynaecoleg ·
Dr Michael
Obiako, Arweinydd Clinigol Ad-drefnu Gwasanaethau Meddygaeth Frys Y Fforwm
Clinigol Cenedlaethol ·
Yr Athro
Mike Harmer, Cadeirydd Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1
Ymatebodd y cynrychiolwyr o Ddeoniaeth Cymru a’r Athro Harmer o’r Fforwm
Clinigol Cenedlaethol i gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor. 3.2
Cytunodd y Pwyllgor y byddai’r Cadeirydd yn ysgrifennu i Raglen De Cymru i ofyn
a fyddai’r dystiolaeth ysgrifenedig a gyflwynwyd gan y Fforwm Clinigol
Cenedlaethol ar gyfer ymgynghoriad y Rhaglen yn cael ei rhyddhau’n gyhoeddus ar
ôl i Fwrdd y Rhaglen gyfarfod ar 22 Hydref. 3.3 Cytunodd
y Pwyllgor y byddai’r Cadeirydd yn ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a
Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn am syniad o amserlen Llywodraeth Cymru ar
gyfer ymateb yn ffurfiol i ganlyniad Adolygiad Greenaway, sy’n ystyried
strwythur addysg a hyfforddiant meddygol ôl-radd, sy’n mynd rhagddo ar hyn o
bryd (The Shape of Training Review). |
|
Papurau i’w nodi Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.1 Nododd
y Pwyllgor gofnodion y cyfarfod blaenorol. |
||
Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru): Llythyr gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4a.1 Nododd
y Pwyllgor y llythyr gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol. |
||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 5.1
Derbyniwyd y cynnig. |
||
(12:10 - 12:25) |
Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru): Trafodaeth ar y drefn o ystyried trafodion Cyfnod 2 Sylwer: Bydd
trafodion Cyfnod 2 o'r Bil hwn ond yn mynd yn eu blaen os y cytunir ar yr
Egwyddorion Cyffredinol ar 8 Hydref 2013.
Cofnodion: 6.1
Trafododd y Pwyllgor y drefn o ystyried trafodion ar gyfer Cyfnod 2, a chytuno
arni mewn egwyddor. |
|
(12:25 - 12:30) |
Trafodaeth ar waith allgymorth ar yr ymchwiliad i fynediad at dechnolegau meddygol yng Nghymru Cofnodion: 7.1
Trafododd y Pwyllgor ei ymchwiliad i fynediad at dechnolegau meddygol yng
Nghymru. |
|
(13:30 - 15:00) |
Paratoi ar gyfer Cyllideb Ddrafft 2014-15 Cofnodion: 8.1 Er mwyn
paratoi ar gyfer y broses o graffu ar Gyllideb Ddrafft 2014-15, cynhaliodd y
Pwyllgor grŵp trafod gyda chynrychiolwyr o grwpiau rhanddeiliaid
perthnasol. |