Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Policy: Llinos Madeley  Deddfwriaeth: Sarah Beasley/Fay Buckle/Steve George

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(14.00 - 14.05)

1.

Cynnig i ethol Cadeirydd dros dro

Cofnodion:

1.1 Galwodd y Clerc am enwebiadau ar gyfer ethol Cadeirydd dros dro. Enwebwyd Lynne Neagle gan Rebecca Evans, ac etholwyd Lynne Neagle yn Gadeirydd dros dro.

(14.05)

2.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

2.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Vaughan Gething a Ken Skates. Roedd Mick Antoniw a Jenny Rathbone yn dirprwyo.

(14.05 - 14.10)

3.

Papurau i'w nodi

Cofnodion:

3.1 Nodwyd y papurau.

3a

Y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru): Llythyr gan y Dirprwy Weinidog i'r Cadeirydd dyddiedig 11 Mehefin 2013

HSC(4)-22-13(ptn 1)

Dogfennau ategol:

3b

Y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru): Llythyr gan y Dirprwy Weinidog i'r Cadeirydd dyddiedig 17 Mehefin 2013

HSC(4)-22-13(ptn2)

Dogfennau ategol:

(14.10)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:

Eitem 4 a’r cyfarfod cyfan ar 4 Gorffennaf

Cofnodion:

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

(14.15 - 17.00)

5.

Y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru): Ystyried yr adroddiad drafft

HSC(4)-22-13(p1)

 

Cofnodion:

5.1 Bu’r Aelodau’n trafod yr adroddiad drafft.