Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd
Cyswllt: Polisi: Llinos Dafydd Deddfwriaeth: Sarah Beasley/Fay Buckle/Steve George
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(14.00) |
Cynnig i ethol Cadeirydd dros dro Cofnodion: 1.1 Galwodd y Clerc am enwebiadau i ethol Cadeirydd dros dro. Enwebwyd Mick Antoniw gan Vaughan Gething, ac fe'i etholwyd yn Gadeirydd yn unol â hynny. |
|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 2.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan William Graham. Cafwyd ymddiheuriadau hefyd gan Mark Drakeford a Lynne Neagle; roedd Keith Davies a Ken Skates yn dirprwyo ar eu rhan. |
||
(14.05) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol: Eitem 4. Cofnodion: 3.1 Cafodd y cynnig ei dderbyn. |
|
(14.05 - 16.00) |
Bil Trawsblannu Dynol (Cymru): Cyfnod 1 - Trafod yr adroddiad drafft Cofnodion: 4.1 Parhaodd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol â'i waith o ystyried yr adroddiad drafft ar y Bil Trawsblannu Dynol (Cymru). |