Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd

Cyswllt: Polisi: Llinos Dafydd  / Deddfwriaeth: Fay Buckle

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Cafwyd ymddiheuriadau oddi wrth Vaughan Gething a Darren Millar. Nid oedd dirprwyon.

 

(09.30 - 12.10)

2.

Ymchwiliad i'r gwaith o weithredu'r Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer diabetes yng Nghymru a'i gyfeiriad yn y dyfodol - Tystiolaeth lafar

2a

09.30 - 10.20: Diabetes UK Cymru

HSC(4)-30-12 papur 1 – Tystiolaeth gan Diabetes UK Cymru

          Dai Williams, Cyfarwyddwr Diabetes UK Cymru

Jason Harding, Rheolwr Polisi, Diabetes UK Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Bu’r tystion yn ymateb i gwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor.

2b

10.20 - 11.10: Coleg Brenhinol y Ffisigwyr, Cymdeithas Diabetolegwyr Clinigol Prydain, a Chymdeithas Feddygol Prydain

HSC(4)-30-12 papur 2 – Tystiolaeth gan Goleg Brenhinol y Ffisigwyr a Chymdeithas Diabetolegwyr Clinigol Prydain

Dr Meurig Williams, Cynghorydd Rhanbarthol Cymru, Coleg Brenhinol y Ffisigwyr

Dr Aled Roberts, Cymdeithas Diabetolegwyr Clinigol Prydain

HSC(4)-30-12 papur 3 – Tystiolaeth gan Gymdeithas Feddygol Prydain

          Dr Ian Millington

Dr Mark Temple

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.2 Bu’r tystion yn ymateb i gwestiynau oddi wrth Aelodau’r Pwyllgor.

 

2.3 Cytunodd Dr Temple i roi nodyn i’r Pwyllgor ar y gostyngiad yn nifer y meddygon iechyd cyhoeddus yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf.

2c

11.20 - 12.10: Y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol a Fferylliaeth Gymunedol Cymru

HSC(4)-30-12 papur 4 – Tystiolaeth gan y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol

          Mair Davies, Cadeirydd, Bwrdd Fferylliaeth Cymru

Paul Gimson, Cyfarwyddwr Cymru, Y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol

HSC(4)-30-12 papur 5 – Tystiolaeth gan Alliance Boots

          Russell Goodway, Prif Weithredwr Fferylliaeth Gymunedol Cymru

Marc Donovan, Aelod o Fwrdd Fferylliaeth Gymunedol Cymru a Phennaeth Gallu Proffesiynol Alliance Boots

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.4 Bu’r tystion yn ymateb i gwestiynau oddi wrth Aelodau’r Pwyllgor.

 

2.5 Cytunodd Mr Gimson i rannu papur â’r Pwyllgor ar ganlyniadau fferyllwyr yn darparu addysg strwythuredig i gleifion diabetes.

(12.10 - 12.15)

3.

Papurau i'w nodi

Cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 17 a 25 Hydref, a 7 Tachwedd

Dogfennau ategol:

3a

Blaenraglen Waith - Tachwedd i Ragfyr 2012

HSC(4)-30-12 papur 6

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Nododd y Pwyllgor y papur.

 

3.2 Cytunodd y Pwyllgor i ofyn am amser yn gynnar yn 2013 i gwrdd â'r Fforwm Clinigol Cenedlaethol, Deoniaeth Cymru a sefydliadau cenedlaethol eraill i barhau â'i ystyriaeth o gynlluniau ad-drefnu gwasanaethau y byrddau iechyd.

3b

Gohebiaeth gan Mick Antoniw AC ar y Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru)

HSC(4)-30-12 papur 7

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.3 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 

3.4 Dywedodd Mick Antoniw wrth y Pwyllgor na fyddai'n bresennol yn y sesiynau lle fydd y Pwyllgor yn trafod y Bil, gan mai ef yw’r Aelod sy’n gyfrifol am y Bil.

3c

Gohebiaeth gan Arweinydd y Tŷ ar Reoliadau Mangreoedd etc Di-fwg (Cymru) (Diwygio)

HSC(4)-30-12 papur 8

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.5 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

(12.15)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer eitem 5 ac ar gyfer eitem 1 y cyfarfod ar 21 Tachwedd

Cofnodion:

4.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

(13.15 - 14.30)

5.

Ymchwiliad i Ofal Preswyl i Bobl Hŷn - Trafod yr adroddiad drafft

Cofnodion:

5.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod yr adroddiad drafft a chytunodd i drefnu sesiwn i’w drafod eto ar 21 Tachwedd.

Trawsgrifiad