Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd

Cyswllt: Polisi: Marc Wyn Jones  / Deddfwriaeth: Bethan Davies

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.20)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau gan Gwyn Price; nid oedd dirprwy.

(09.20 - 10.00)

2.

Ymchwiliad i bolisi Llywodraeth Cymru ar yr amgylchedd hanesyddol - sesiwn dystiolaeth

Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol

CELG(4)-19-12 – Papur 1

 

Dr Emma Plunkett-Dillon, Pennaeth Cadwraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd Dr Emma Plunkett-Dillon o’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol i’r cyfarfod. Bu’r Aelodau’n holi’r tyst.

(10.10 - 10.50)

3.

Ymchwiliad i bolisi Llywodraeth Cymru ar yr amgylchedd hanesyddol - sesiwn dystiolaeth (cynhadledd fideo)

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

CELG(4)-19-12 – Papur 2

 

Peter Jones-Hughes, Prif Swyddog Cadwraeth

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd Peter Jones-Hughes o Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i’r cyfarfod. Bu’r Aelodau’n holi’r tyst.

 

Gofynnodd y Pwyllgor am ragor o wybodaeth am rwydwaith gogledd Cymru o swyddogion cadwraeth.

(11.00 - 11.40)

4.

Ymchwiliad i bolisi Llywodraeth Cymru ar yr amgylchedd hanesyddol - sesiwn dystiolaeth

Llywodraeth Cymru

CELG(4)-19-12 – Papur 3

 

Edwina Hart AC, y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth

Steve Webb, Cyfarwyddwr Datblygu

Lucy O'Donnell, Cyfarwyddwr Cynorthwyol, Ymgysylltu â'r Cyhoedd a Llywodraethu, Cadw

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd y Gweinidog a’i swyddogion i’r cyfarfod. Bu’r Aelodau’n holi’r Gweinidog.

(11.40)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:

Eitem 6 a 7

Cofnodion:

Cytunwyd ar y cynnig.

(11.40 - 12.20)

6.

Ystyried y materion allweddol - Ymchwiliad i Uwch Gynghrair Pêl-droed Cymru

Cofnodion:

Bu’r Aelodau’n trafod y papurau materion allweddol.

(12.20 - 12.30)

7.

Blaenraglen Waith y Pwyllgor - Cytuno ar gylch gorchwyl ymchwiliad

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar gylch gorchwyl ei ymchwiliad nesaf, sef yr ymchwiliad i ystyriaethau cydraddoldeb yng nghyllideb Llywodraeth Cymru.

8.

Papurau i'w nodi

Cofnodion:

Nodwyd y papur.

8a

CELG(4)-19-12 - Papur 5 - Gwybodaeth ychwanegol gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

Dogfennau ategol:

Trawsgrifiad