Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd

Cyswllt: Polisi: Marc Wyn Jones  / Deddfwriaeth: Bethan Davies

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Etholwyd Joyce Watson yn Gadeirydd dros dro, yn unol â Rheol Sefydlog 17.22.

 

Cafwyd ymddiheuriadau gan Ann Jones a Janet Finch Saunders ac nid oedd dirprwyon.

(09.30)

2.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn

Eitemau 3 a 4

Cofnodion:

Cytunwyd ar y cynnig.

(09.30 - 10.30)

3.

Sesiwn i roi gwybodaeth friffio dechnegol am 'Cartrefi i Gymru: Papur Gwyn ar gyfer Bywyd Gwell a Chymunedau Gwell'

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor frîff ar Cartrefi i Gymru: Papur Gwyn ar gyfer Bywyd Gwell a Chymunedau Gwell. Holodd yr Aelodau y swyddogion oedd yn bresennol.

(10.30 - 10.40)

4.

Blaenraglen waith y pwyllgor - craffu ar y gyllideb

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar y broses o graffu ar y gyllideb nesaf, a chytunodd y Clerc i anfon rhagor o fanylion i’r Aelodau ar e-bost yn ystod toriad yr haf.

(10.40 - 11.15)

5.

Ymchwiliad i bolisi Llywodraeth Cymru ar yr amgylchedd hanesyddol - sesiwn dystiolaeth

CELG(4)-17-12 – Papur 1

Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Peter Gomer, Cynghorydd Polisi Dros Dro - Hamdden, Diwylliant, Twristiaeth a Threftadaeth

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd Peter Gomer o Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Holodd yr Aelodau y tyst.

(11.15 - 12.00)

6.

Ystyried adroddiad blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ar gyfer 2011-12

CELG(4)-17-12 – Papur 2

 

Peter Tyndall, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

Susan Hudson, Rheolwr Polisi a Chyfathrebu

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd Peter Tyndall, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a Susan Hudson, Rheolwr Polisi a Chyfathrebu, i’r Pwyllgor.

 

Croesawodd y Pwyllgor yr adroddiad a holwyd yr Ombwdsmon ar yr adroddiad.

 

Cytunodd yr Ombwdsmon i ddarparu nodyn i’r Pwyllgor ar y Panel Cynghori.

7.

Papurau i'w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nodwyd y papurau.

7a

CELG(4)-17-12 - Papur 3 - Tystiolaeth gan ITV Cymru ar gyfer yr ymchwiliad ynghylch pêl-droed

Dogfennau ategol:

7b

CELG(4) -17-12 - Papur 4 - Gwybodaeth ychwanegol gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar gyfer yr ymchwiliad ynghylch pêl-droed

Dogfennau ategol:

8.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:

Cofnodion:

Cytunwyd ar y cynnig i gyfarfod yn breifat yn ystod eitemau 1 a 2 o’r cyfarfod ar 11 Gorffennaf.

Trawsgrifiad

View the meeting transcript.