Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Polisi: Marc Wyn Jones Cyswllt am y Bil Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) - Bethan Davies 029 2089 8120
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | |
---|---|---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd aelodau’r Pwyllgor, y tystion ac aelodau’r cyhoedd i’r cyfarfod |
|||
(9:15 - 10:00) |
Bil Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) - Sesiwn Dystiolaeth Cyfnod 1 - Cymdeithas Cynghorau Trefi a Chymdeithasau Mwyaf Gogledd Cymru Papur 1 Robert Robinson, Ysgrifennydd dros Gymdeithas Cynghorau
Trefi a Chymdeithasau Mwyaf Gogledd Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth am y Bil gan Gymdeithas Cynghorau Trefi a Chymdeithasau Mwyaf Gogledd Cymru. |
||
(10:00 - 10:45) |
Bil Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) - Sesiwn Dystiolaeth Cyfnod 1 - Parciau Cenedlaethol Papur 2 Iwan Jones, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1 Croesawodd y Cadeirydd Iwan Jones i’r cyfarfod. 3.2 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth am y Bil gan y Parciau Cenedlaethol. |
||
(10:45 - 11:00) |
Egwyl |
||
(11:00 - 12:00) |
Bil Cynulliad Cenedlaethol Cymru (ieithoedd Swyddogol) - Sesiwn Dystiolaeth Cyfnod 1 - Comisiynydd sydd â chyfrifoldeb dros y Gymraeg Rhodri Glyn Thomas, y Comisiynydd sydd â chyfrifoldeb dros y Gymraeg Cofnodion: 5.1 Cafwyd ymddiheuriadau ar gyfer yr eitem hon gan Rhodri Glyn Thomas a Peter Black oherwydd eu swyddi yng Nghomisiwn y Cynulliad. Croesawodd y Cadeirydd Elin Jones, a oedd yn dirprwyo ar ran Rhodri Glyn Thomas, yn unol â Rheol Sefydlog 17.48. 5.2 Croesawodd y Cadeirydd Rhodri Glyn Thomas, a oedd yno i roi tystiolaeth i’r Pwyllgor yn rhinwedd ei swydd fel Comisiynydd y Cynulliad sydd â chyfrifoldeb dros y Gymraeg ac fel yr Aelod â chyfrifoldeb dros y Bil. 5.3 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth am y Bil. |
||
Sesiwn breifat Caiff y Pwyllgor ei wahodd i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer eitem 6 yn unol â Rheol Sefydlog 17.42(vi): Caiff pwyllgor benderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod neu unrhyw ran o gyfarfod: (vi) lle mae’r pwyllgor yn cyd-drafod cynnwys, casgliadau neu argymhellion adroddiad y mae’n bwriadu ei gyhoeddi; neu’n ymbaratoi i gael tystiolaeth gan unrhyw berson. Cofnodion: 6.1 Penderfynodd y Pwyllgor i gwrdd yn breifat, i ystyried y dystiolaeth a ddaeth i law, yn unol â Rheol Sefydlog 17.42(vi). |
|||
Papurau i'w nodi Dogfennau ategol: |
|||
CELG(4)-04-12 : Papur 1 Llythyr gan
y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau – Ymateb i lythyr gan y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ynghylch Diogelwch Cymunedol Dogfennau ategol: |
|||
CELG(4)-04-12 : Papur 2 Ymateb
Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar aflonyddu ar sail anabledd yng
Nghymru. Dogfennau ategol: |
|||
Trawsgrifiad |