Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Polisi: Marc Wyn Jones Cyswllt am y Bil Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) - Bethan Davies 029 2089 8120
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd Aelodau’r Cynulliad a’r cyhoedd i’r cyfarfod. 1.2 Oherwydd bod Rhodri Glyn Thomas a Peter Black yn Gomisiynwyr y Cynulliad, nododd y Cadeirydd na fyddant yn cymryd rhan yn y sesiynau craffu ar Fil Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol). 1.3 Croesawodd y Cadeirydd Alun Ffred Jones, a oedd yn dirprwyo ar ran Rhodri Glyn Thomas yn ystod eitem 2, yn unol â Rheol Sefydlog 17.48. |
||
(10.00 - 10.15) |
Craffu yn ystod Cyfnod 1 Bil Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol): Cytuno ar y ffordd ymlaen Cofnodion: 2.1 Cytunodd y Pwyllgor yn ffurfiol ar y ffordd ymlaen o ran craffu ar Fil Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol). |
|
(10.15 - 11.00) |
Bil Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru): Sesiwn Dystiolaeth Cyfnod 1 - Un Llais Cymru LGB(4)-02-12 papur 1 Lyn Cadwallader, Prif Weithredwr Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Lyn Cadwallader o Un Llais Cymru. |
|
(11.00 - 11.05) |
Sesiwn breifat Gwahoddir y Pwyllgor i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer eitemau 5 a 6 yn unol â Rheol Sefydlog 17.42(vi): Caiff pwyllgor benderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod neu unrhyw ran o gyfarfod: (vi) lle mae’r
pwyllgor yn cyd-drafod cynnwys, casgliadau neu argymhellion adroddiad y mae’n bwriadu ei
gyhoeddi; neu’n ymbaratoi i gael tystiolaeth gan unrhyw berson. Cofnodion: 4.1 Cytunodd y Pwyllgor i wahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer eitemau 4 a 5 yn unol â Rheol Sefydlog 17.42(vi). |
|
(11.05 - 11.25) |
Ymchwiliad i ddarpariaeth tai fforddiadwy - trafod y themâu sy'n codi Dogfennau ategol: Cofnodion: 5.1 Bu’r Pwyllgor yn ystyried y prif themâu a nododd y bydd yn ystyried yr adroddiad drafft mewn cyfarfod Pwyllgor yn y dyfodol. |
|
(11.25 - 11.35) |
Ystyried Blaenraglen Waith y Pwyllgor Dogfennau ategol:
Cofnodion: 6.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y penderfyniad a ganlyn, yn unol â Rheol Sefydlog 17.17: “Bydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Cymunedau a Llywodraeth Leol yn sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen, yn unol â Rheol Sefydlog Rhif 17.17, er mwyn asesu effaith torri cyllidebau ar gyfranogiad yn y celfyddydau yng Nghymru. Aelodau’r grŵp gorchwyl a gorffen fydd: Ann Jones, Bethan Jenkins a Joyce Watson Ann Jones fydd Cadeirydd y grŵp gorchwyl a gorffen. Bydd y grŵp gorchwyl a gorffen yn dod i ben ar 30 Ebrill 2012, neu pan fydd wedi cyflwyno adroddiad, pa un bynnag a ddaw gyntaf.” 6.2 Cytunodd y Pwyllgor ar y cylch gorchwyl ar gyfer y grŵp. 6.3 Cytunodd y Pwyllgor
y byddai’r ymchwiliad nesaf yn ystyried
Uwch Gynghrair Cymru. Ar wahan
i ychydig o fân-newidiadau,
cytunodd y Pwyllgor ar y cylch gorchwyl.
|
|
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad
o'r cyfarfod. |