Ymchwiliad i ddarpariaeth tai fforddiadwy

Ymchwiliad i ddarpariaeth tai fforddiadwy

Cynhaliwyd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ymchwiliad  i ddarpariaeth tai fforddiadwy yng Nghymru ar draws pob deiliadaeth. Roedd cylch gorchwyl yr ymchwiliad fel a ganlyn:

  • pa mor effeithiol yw cymorthdaliadau cyhoeddus, yn enwedig y grant tai cymdeithasol, o ran cyflenwi tai fforddiadwy;
  • a fanteisir i’r eithaf ar opsiynau amgen i gymorthdaliadau cyhoeddus;
  • a yw Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn defnyddio’u pwerau’n effeithiol i gynyddu’r cyflenwad o dai fforddiadwy ac i wella’r mynediad atynt;
  • a oes digon o gydweithio rhwng awdurdodau lleol, landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, sefydliadau ariannol ac adeiladwyr tai; ac
  • a allai Llywodraeth Cymru hyrwyddo ffyrdd arloesol o gyflenwi tai fforddiadwy, er enghraifft defnyddio ymddiriedolaethau tir cymunedol neu fentrau cydweithredol, yn fwy effeithiol.

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 02/09/2015

Dogfennau