Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Sarah Beasley 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 390KB) Gweld fel HTML (437KB)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.   1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a’r cyhoedd i’r cyfarfod.

1.2 Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan  Gwenda Thomas AC a Lyndsey Whittle AC. Roedd John Griffiths AC ac Elin Jones AC yn dirprwyo ar eu rhan yn unol â Rheol Sefydlog 17.48.

 

(09.00 - 10.30)

2.

Craffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2016-2017 – y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi a’r Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth

Lesley Griffiths AC, y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi

Jane Hutt AC, y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth
Jo Salway, Dirprwy Gyfarwyddwr Cyllidebu Strategol

Amelia John, Dirprwy Gyfarwyddwr, Dyfodol Tecach

Eleanor Marks, Is Adran Cymmunedau, Dirpwy Cyfarwyddwr

John Howells, Cyfarwyddwr Tai ac Adfywio

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

·         Lesley Griffiths AC, y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi

·         Jane Hutt AC, y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth

 

2.2 Datganodd Peter Black AC fuddiant perthnasol o dan Reol Sefydlog 17.24A.

 

2.3 Cytunodd y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi i ddarparu gwybodaeth ynghylch cyfraddau cyflogaeth mewn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf i’r Pwyllgor.

 

(10.45 - 11.45)

3.

Craffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2016-2017 - y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth

Ken Skates AC, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth
Manon Antoniazzi, Cyfarwyddwr, Twristiaeth, Diwylliant a Chwaraeon
Huw Davies, Pennaeth Cyllid, Twristiaeth, Diwylliant a Chwaraeon

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

·         Ken Skates AC, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth

 

3.2 Cytunodd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth i ddarparu’r wybodaeth ganlynol i’r Pwyllgor:

 

·         Y wybodaeth ddiweddaraf am y Rhaglen Cyfuno.

 

 

4.

Papurau i’w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Nododd y Pwyllgor y papurau.

 

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

5.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

(11.45 - 12.00)

6.

Craffu ar Gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2016/17: y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth a’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth – trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd o dan eitemau 2 a 3.

 

 

 

(12:00-12:15)

7.

Ystyried Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol o ran y Bil Tai a Chynllunio: rhyddfreinio ac estyn lesddaliadau hir

Cofnodion:

7.1 Ystyriodd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Cynllunio a Thai: Rhyddfreinio ac estyn lesddaliadau hir

 

(12.15 - 12.30)

8.

Craffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2016/17: ystyried llythyrau drafft at Brif Weinidog Cymru a’r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus

Cofnodion:

8.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y Llythyrau ar y Gyllideb Ddrafft.