Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Sarah Beasley 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a’r cyhoedd i’r cyfarfod.

 

(09.15-10.45)

2.

Y Bil Trais ar sail Rhywedd, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru): Sesiwn dystiolaeth 1: Lesley Griffiths, y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth

Lesley Griffiths AC, Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth

Lynne Schofield, Pennaeth y Tim Trais yn Erbyn Menywod a Cham-drin Domestig

Rhys Davies, Cyfreithiwr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Lesley Griffiths AC, y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth.

 

2.2 Yn ystod y sesiwn, cytunodd y Gweinidog i ddarparu’r canlynol:

 

  • gwybodaeth am y cosbau sydd ar gael i’r llysoedd mewn achosion lle nad yw awdurdodau perthnasol yn cydymffurfio â’r canllawiau statudol a gyhoeddwyd o dan y Bil.

 

3.

Papurau i'w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Nododd y Pwyllgor y papurau.

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y canlynol: eitemau 5 a 6

Cofnodion:

4.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

(10.45-11.00)

5.

Y Bil Trais ar sail Rhywedd, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) - Trafod y dystiolaeth a sesiynau tystiolaeth yn y dyfodol

Cofnodion:

5.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod y dystiolaeth gan Lesley Griffiths AC, y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth, a’i swyddogion. 

 

(11.00 - 12.00)

6.

Y Bil Safleoedd Carafannau Gwyliau (Cymru): Y Prif Faterion

Cofnodion:

6.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod y Bil Safleoedd Carafannau (Cymru): Y Prif Faterion