Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Sarah Beasley 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod.

(09.15-10.30)

2.

Y Bil Safleoedd Carafannau Gwyliau (Cymru) - Sesiwn Dystiolaeth 6: Darren Millar AC

Darren Millar AC

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Darren Millar AC, a'i swyddogion. 

 

 

3.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol: eitem 4

Cofnodion:

3.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

(10.30 - 10.45)

4.

Y Bil Safleoedd Carafannau Gwyliau (Cymru): Cyfnod 1 - trafod sesiwn dystiolaeth 6

Cofnodion:

4.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law gan Darren Millar AC.

 

(11.00-12.30)

5.

Sesiwn graffu gyffredinol: Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth

Lesley Griffiths AC, y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth

Debra Carter, Dirprwy Cyfarwyddwr Cyllid a Pherfformiad Llywodraeth Leol

Lisa James, Dirprwy Gyfarwyddwr yr Is-adran Democratiaeth, Moeseg a Phartneriaeth

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Lesley Griffiths AC, y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth, a'i swyddogion.

 

5.2 Yn ystod y sesiwn, cytunodd y Gweinidog i ddarparu'r canlynol:

  • Nodyn ar y gwaith sy'n cael ei wneud gan Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd mewn perthynas ag achosion pan fo un cyngor yn etifeddu diffyg gan gyngor arall wrth uno.
  • Rhestr o'r cynghorau cymunedol a'r cynghorau tref sydd wedi cael cyllid i sefydlu presenoldeb ar y we, a pha rai o'r cynghorau hyn sydd bellach â phresenoldeb ar y we.
  • Nifer y seddi ar gynghorau cymunedol a chynghorau sir sydd wedi bod yn wag yn hirdymor.
  • Dadansoddiad o'r ystadegau ar gyfer rhyw, oedran ac ethnigrwydd cynghorwyr sir, a dadansoddiad cymharol ar gyfer cynghorwyr cymunedol.

 

 

6.

Papurau i'w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Nododd y Pwyllgor y papurau.

 

7.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

7.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig.

 

 

 

(12.30 - 12.40)

8.

Sesiwn graffu gyffredinol: Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth - trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

8.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth.