Bil Safleoedd Carafannau Gwyliau (Cymru)

Bil Safleoedd Carafannau Gwyliau (Cymru)

Bil Aelod Cynulliad a gyflwynwyd gan Darren Millar AC. Roedd Darren Millar AC yn llwyddiannus mewn balot deddfwriaethol a gynhaliwyd ar 24 Ebrill 2013. Rhoddodd y Cynulliad ganiatâd iddo fwrw ymlaen â’r Bil ar 19 Mehefin 2013. Mae'r Pwyllgor Busnes wedi gofyn i’r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol graffu ar y Bil.

 

Gwybodaeth am y Bil

 

Prif ddibenion y Bil, wrth ei gyflwyno, oedd moderneiddio'r gyfundrefn drwyddedu ar gyfer safleoedd carafanau gwyliau. Mae'n ceisio rhoi dyletswyddau a phwerau gorfodi newydd i awdurdodau lleol fel y gallant sicrhau bod safleoedd carafanau gwyliau yn ddiogel ac yn cael eu rheoli'n dda, ac i ymdrin yn gadarn ag achosion o dorri amodau trwyddedau drwy gyfuniad o gamau gorfodi statudol a chosbau ariannol, er mwyn bod yn ataliad effeithiol.

 

Mae'r Bil hefyd yn ceisio rhoi terfyn ar yr arfer o ddefnyddio carafanau gwyliau fel cartrefi preswyl parhaol drwy ei gwneud yn ofynnol i berchnogion carafanau a meddianwyr hirdymor ddangos bod eu prif breswylfa mewn man arall, a thrwy roi pwerau i awdurdodau lleol ddelio â meddianwyr carafanau sy'n methu’r prawf hwn.

 

Bydd hefyd yn rhoi hawl gyfreithiol i berchnogion carafanau a meddianwyr hirdymor gael datganiad ysgrifenedig o'r telerau ac amodau sy’n sail i’w meddiant o’r llain, a bydd yn rhagnodi nifer o delerau ymhlyg a fydd yn berthnasol i bob cytundeb carafanau gwyliau.

 

Cyfnod presennol

 

Methodd y Bil yn niwedd y Pedwerydd Cynulliad gan na chafodd ei basio cyn diwedd y Cynulliad y’i cyflwynwyd ynddo (Rheol Sefydlog 26.77).

 

Cofnod o daith y Bil drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru

 

Mae’r tabl a ganlyn yn nodi’r dyddiadau ar gyfer pob cyfnod o daith y Bil drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

 


Cyfnod


Dogfennau





Cyflwyno’r Bil – 17 Mawrth 2014


Bil Safleoedd Carafannau Gwyliau (Cymru), fel y’i gyflwynwyd (PDF 237KB)

Memorandwm Esboniadol (PDF 601KB)

Datganiad y Llywydd am Gymhwysedd Deddfwriaethol: 17 Mawrth 2014 (PDF 114KB)

Adroddiad y Pwyllgor Busnes ar yr amserlen ar gyfer ystyried y Bil: 17 Mawrth 2014  (PDF 114KB)

Datganiad yn y Cyfarfod Llawn: Cyflwyno Bil Safleoedd Carafannau Gwyliau (Cymru): 19 Mawrth 2014 (PDF 48.4KB)

Crynodeb y Gwasanaeth Ymchwil o’r Bil (PDF 323KB)




Cyfnod 1 - Pwyllgor yn ystyried yr egwyddorion cyffredinol





Ymgynghoriad Cyhoeddus. Cyhoeddodd y Pwyllgor alwad am dystiolaeth, a gaeodd ar 23 Mai 2014.

Bydd y Pwyllgor yn ystyried y Bil ar y dyddiadau a ganlyn:

7 Mai 2014
5 Mehefin 2014
11 Mehefin 2014
25 Mehefin 2014
9 Gorffennaf 2014 (preifat)

 

Gohebiaeth gan yr Aelod sy’n gyfrifol am y Bil:

29 Mai 2014 (PDF 232KB)
9 Gorffennaf 2014 (Saesneg yn unig) (PDF 174KB)

Adroddiad Cyfnod 1 y Pwyllgor (PDF 622KB)


Mae'r Bil hwn wedi methu ar ddiwedd y Pedwerydd Cynulliad ac ni chynhelir unrhyw drafodion pellach ar y Bil hwn (Rheol Sefydlog 26.76)

 

 

 

Math o fusnes: Bil

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Bil wedi methu

Cyhoeddwyd gyntaf: 17/03/2014

Dogfennau

Ymgynghoriadau