Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Sarah Beasley 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1.      Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a’r cyhoedd i’r cyfarfod.

 

1.2.      Cafwyd ymddiheuriadau gan Mike Hedges AC. Dirprwyodd Mick Antoniw AC ar ei ran.

 

(9.15 - 10.15)

2.

Sesiwn graffu gyffredinol: Y Gweinidog Tai ac Adfywio

Carl Sargeant AM, Gweinidog Tai ac Adfywio

John Howells, Cyfarwyddwr Yr Adran Tai ac Adfywio

Kath Palmer, Dirprwy Cyfarwyddwr Yr Is-Adran Cartrefi a Lleoedd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1. Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Carl Sargeant AC, y Gweinidog Tai ac Adfywio, a’i swyddogion.

 

2.2. Yn ystod y sesiwn, cytunodd y Gweinidog i ddarparu’r wybodaeth a ganlyn i’r Pwyllgor:

  • eglurhad o’r diffiniad technegol o ‘dai fforddiadwy’, fel y cyfeirir atynt mewn perthynas â thargedau, a nodyn ar y gwahaniaethau rhwng defnydd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU o’r term "fforddiadwy";
  • nodyn yn cynnwys dadansoddiad o statws pob awdurdod lleol mewn perthynas â’u dyddiadau targed o ran cwblhau Safon Ansawdd Tai Cymru, gan gynnwys manylion am unrhyw awdurdod na fydd, o bosibl, yn cyrraedd y targed;
  • dadansoddiad manwl o’r ffigurau ar gyfer y cynllun rhannu ecwiti ‘Cymorth i Brynu’ ar gyfer pob awdurdod lleol yng Nghymru;
  • nodyn ar y cynlluniau busnes a’r prosiectau o fewn portffolio’r Gweinidog sy’n ymwneud â’r gronfa gofal canolraddol a’r canlyniadau a ddisgwylir;
  • manylion am adolygiad Adran 180 o’r Rhaglen Grantiau Digartrefedd, pan fo’r rhain ar gael;
  • canlyniad y newidiadau i’r rhaglen ‘cefnogi pobl’, yn dilyn y toriad o £5 miliwn a godwyd wrth graffu ar y gyllideb ar gyfer 2014/15 fis Tachwedd y llynedd.

 

3.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol: eitemau 4, 5 a 6

Cofnodion:

3.1. Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

(10.15 - 10.40)

4.

Masnachu pobl: trafod llythyr drafft at y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod y llythyr drafft at y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth mewn perthynas â Masnachu Pobl.

 

(10.40 - 10.45)

5.

Trafod gohebiaeth gan y Pwyllgor Busnes

Cofnodion:

5.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod y llythyr gan y Pwyllgor Busnes.

 

(10.45 - 10.50)

6.

Ystyriaeth o ohebiaeth gan Darren Millar AC mewn perthynas â'r Bil Safleoedd Carafanau Gwyliau (Cymru)

Cofnodion:

6.1. Bu’r Pwyllgor yn trafod yr ohebiaeth gan Darren Millar AC mewn perthynas â’r Bil Safleoedd Carafannau Gwyliau (Cymru).

 

 

(11.00 - 12.15)

7.

Sesiwn graffu gyffredinol: Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi

Jeff Cuthbert AC, Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi

Kate Cassidy, Cyfarwyddwr Cymunedau a Threchi Tlodi

Eleanor Marks, Dirprwy Cyfarwyddwr Yr Is-Adran Cymunedau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Jeff Cuthbert AC, y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, a’i swyddogion.

 

7.2 Yn ystod y sesiwn, cytunodd y Gweinidog i ddarparu’r wybodaeth a ganlyn i’r Pwyllgor:

  • manylion am y canllawiau a roddir i awdurdodau lleol fel rhan o’u gwaith craffu ar y sawl sy’n cael grantiau Cymunedau’n Gyntaf;
  • manylion am unrhyw gynnydd yn ffigurau aelodaeth Undebau Credyd ar ôl ymgyrch farchnata Llywodraeth Cymru.

 

 

8.

Papurau i’w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Nododd y Pwyllgor y papur.

 

9.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

9.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

(12.15 - 12.25)

10.

Sesiwn graffu gyffredinol: Y Gweinidog Tai ac Adfywio - trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

10.1. Bu’r Pwyllgor yn trafod y dystiolaeth a gafwyd a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Tai ac Adfywio ar y pwyntiau a godwyd.

 

 

(12.25 - 12.35)

11.

Sesiwn graffu gyffredinol: Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi - trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

11.1. Bu’r Pwyllgor yn trafod y dystiolaeth a gafwyd a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi ar y pwyntiau a godwyd.