Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Sarah Beasley 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod.

 

(09.15-10.15)

2.

Y Bil Safleoedd Carafannau Gwyliau (Cymru): Cyfnod 1 – Sesiwn dystiolaeth 3

Carl Sargeant, y Gweinidog Tai ac Adfywio

Alyn Williams, Tim Tai Sector Preifat

Helen Kellaway, Gwasanaethau Cyfreithiol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafodd y pwyllgor dystiolaeth gan Carl Sargeant, y Gweinidog Tai ac Adfywio, a'i swyddogion. 

 

(10.30-11.30)

3.

Y Bil Safleoedd Carafannau Gwyliau (Cymru): Cyfnod 1 – Sesiwn dystiolaeth 4

Cymdeithas Genedlaethol y Perchnogion Carafannau (NACO)

Steve Munro, Cyfarwyddwr

Dan Ellacott, Tîm Cynghori

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gymdeithas Genedlaethol Perchnogion Carafannau.

 

3.2 Yn ystod y sesiwn, cytunodd y Gymdeithas Genedlaethol Perchnogion Carafannau i ddarparu'r wybodaeth ganlynol i'r Pwyllgor:

  • dadansoddiad o enghreifftiau ysgrifenedig o'r 1,200 o gwynion a ddaeth i law mewn blwyddyn gan berchnogion carafannau;
  • nodyn am farn y gymdeithas am y cynnig i gyflwyno gorchmynion ad-dalu, a fyddai'n galluogi deiliad carafannau gwyliau i wneud cais i lys ynadon i adennill taliadau penodol a wnaed gan feddiannydd i berchennog safle sydd heb drwydded;
  • nodyn ynghylch a oes angen cyflwyno prawf person addas a phriodol ar gyfer rheolwyr safle carafannau gwyliau.

 

(11.30-12.30)

4.

Y Bil Safleoedd Carafannau Gwyliau (Cymru): Cyfnod 1 – Sesiwn dystiolaeth 5

Cymdeithas Parciau Gwyliau a Pharciau Cartrefi Prydain

Ros Pritchard OBE, Cyfarwyddwr Cyffredinol

Mr Huw Pendleton, Cadeirydd a Rheolwr Gyfarwyddwr Cenedlaethol o Barc Gwyliau Celtic

 

Y Cyngor Carafannau Cenedlaethol

Alicia Dunne, Dirprwy Gyfarwyddwr Cyffredinol

Judith Archibold, Cyfarwyddwraig Gwasanaethau Cyfreithiol a Chorfforaethol, Parkdean Holidays Limited (cwmni sy’n aelod o’r Cyngor Carafannau Cenedlaethol)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gymdeithas Parciau Gwyliau a Chartrefi Prydain a'r Cyngor Carafannau Cenedlaethol.

 

4.2 Yn ystod y sesiwn, cytunodd Cymdeithas Parciau Gwyliau a Pharciau Cartrefi Prydain i ddarparu nodyn ar y cyfraddau busnes a delir gan barciau carafannau i awdurdodau lleol yng Nghymru, a gafodd ei gynnwys yn ei hastudiaeth gyda Croeso Cymru yn 2011.

 

5.

Papurau i’w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Nododd yr Aelodau yr ohebiaeth a gafwyd gan Chwaraeon Cymru.

 

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

6.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig.

 

(12.30 - 12.45)

7.

Y Bil Safleoedd Carafannau Gwyliau (Cymru): Cyfnod 1 - trafod sesiwn dystiolaeth 3, 4 a 5

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd yn ystod eitemau 2, 3 a 4.