Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Sarah Beasley 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1. Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a’r cyhoedd i’r cyfarfod.

 

(09.15 - 10.30)

2.

Y Bil Safleoedd Carafannau Gwyliau (Cymru): Cyfnod 1 - Sesiwn Dystiolaeth 1 - Darren Millar AC

Darren Millar AC, Aelod sy’n Gyfrifol

Gareth Howells, Cynghorydd Cyfreithiol, Comisiwn y Cynulliad

Jonathan Baxter, Ymchwilydd, Comisiwn y Cynulliad

 

Bil Safleoedd Safleoedd Carafannau Gwyliau (Cymru)

 

Memorandwm Esboniadol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Darren Millar AC, yr Aelod sy’n gyfrifol, a’i swyddogion.

 

2.2. Cytunodd Darren Millar AC i ddarparu nodyn mewn perthynas â chyfleoedd ar gyfer diogelu defnyddwyr a allai godi o’r Bil.

 

3.

Papurau i'w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1. Nododd yr Aelodau yr ohebiaeth gan lyfrgell Cyngor Dinas Casnewydd. 

 

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) i wahardd y cyhoedd o'r eitemau canlynol: eitem 5

Cofnodion:

4.1. Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

(10.30 - 10.45)

5.

Y Bil Safleoedd Carafannau Gwyliau (Cymru): Cyfnod 1 – trafod sesiwn dystiolaeth 1

Cofnodion:

5.1. Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd yn y sesiwn dystiolaeth gyntaf ar y Bil Safleoedd Carafannau Gwyliau (Cymru).

 

5.2. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Darren Millar AC am y canlynol:

  • cwestiynau a oedd yn weddill na chafwyd cyfle i droi atynt yn ystod yr amser a oedd ar gael;
  • pwyntiau a godwyd yn ystod y cyfarfod yr hoffai gael eglurhad pellach arnynt.