Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Sarah Beasley
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad |
||
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod. 1.2
Cafwyd ymddiheuriadau gan Rhodri Glyn Thomas. |
||
(9:15-10:15) |
Ymchwiliad i Lyfrgelloedd Cyhoeddus yng Nghymru. Sesiwn Dystiolaeth 1 - Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru Dr
Chris Llewelyn, Cyfarwyddwr Dysgu Gydol Oes, Hamdden a Gwybodaeth Peter
Gomer, Cynghorydd Polisi, Hamdden, Diwylliant a Threftadaeth Richard Hughes, Cynghorydd
CLlLC a Phennaeth dros dro Byw’n Iach, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar
Ogwr Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Clywodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. 2.2 Cytunodd
Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i ddarparu: ·
ystadegau ynghylch y defnydd o wasanaethau llyfrgell digidol
a dadansoddiad o oedran defnyddwyr; ·
gwybodaeth am y rhaglen Llyfrgelloedd yn Ysbrydoli, o ran y
defnydd o lyfrgelloedd prifysgolion a sut y gellir gwella mynediad. Gofynnodd y
Pwyllgor am ddogfen friffio cyfreithiol ynghylch statws y canllawiau (Safonau
Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru) a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf
Llyfrgelloedd ac Amgueddfeydd Cyhoeddus 1964 (hynny yw, ai canllawiau statudol
neu wirfoddol yw'r rhain). |
|
(10:30-11:30) |
Ymchwiliad i Lyfrgelloedd Cyhoeddus yng Nghymru. Sesiwn Dystiolaeth 2 - Sefydliad Siartredig Gweithwyr Proffesiynol Llyfrgell a Gwybodaeth Carol
Edwards, Cadeirydd Sefydliad Siartredig y Gweithwyr Llyfrgell a Gwybodaeth
Proffesiynol Cymru Mandy
Powell, Swyddog Polisi, Sefydliad Siartredig y Gweithwyr Llyfrgell a Gwybodaeth
Proffesiynol Cymru Jane
Sellwood, yn cynrychioli Cymdeithas Prif Lyfrgellwyr Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1 Clywodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan y Sefydliad Siartredig Gweithwyr Proffesiynol
Llyfrgell a Gwybodaeth. Cytunodd y
Sefydliad i ddarparu gwybodaeth am: ·
niferoedd defnyddwyr/ymwelwyr llyfrgelloedd ym mhob awdurdod
lleol; ·
Deddf Llyfrgelloedd ac Amgueddfeydd Cyhoeddus 1964 a'i
darpariaethau; ·
pa un a oedd modd defnyddio'r System Rheoli Llyfrgelloedd
dros y ffin. |
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y canlynol: Eitem 5 |
||
(11:30-12:30) |
Y Bil Tai (Cymru): Trafod y materion allweddol Cofnodion: 5.1 Trafododd
y Pwyllgor y materion allweddol. |
|
Papurau i’w nodi Dogfennau ategol: |